Rhagolygol
(1)Rhaid gwneud yr asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth cyntaf ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl y diweddaraf o’r hyn a ganlyn—
(a)y diwrnod y caiff yr adeilad, neu ran o adeilad, o dan sylw ei feddiannu neu ei meddiannu fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;
(b)y diwrnod y daw’r adran hon i rym.
(2)Rhaid gwneud asesiadau risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth pellach cyn gynted â phosibl ar ôl i unrhyw un neu ragor o’r hyn a ganlyn ddigwydd—
(a)bod gwaith yn cael ei wneud mewn perthynas â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, neu bod newidiadau i feddiannaeth neu ddefnydd unrhyw ran o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, y mae caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth rheolaeth adeiladau yn ofynnol ar eu cyfer;
(b)bod gwaith yn cael ei wneud am y tro cyntaf mewn perthynas â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol i addasu unrhyw ran ohono i ddiwallu anghenion preswylwyr anabl (ac eithrio gwaith a wneir heb yn wybod i’r landlord y tu mewn i ran o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad aelwyd unigol);
(c)bod tân yn achosi difrod i unrhyw un neu ragor o rannau perthnasol y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 79(7));
(d)bod canfyddiadau adolygiad o dan is-adran (5) yn awgrymu nad yw’r asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth cyfredol yn addas nac yn ddigonol mwyach at y diben a grybwyllir yn adran 81(3);
(e)bod gan y landlord unrhyw reswm arall dros amau nad yw’r asesiad cyfredol yn addas nac yn ddigonol mwyach at y diben hwnnw.
(3)Ond os bydd unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (2) yn digwydd ar adeg pan nad yw’r adeilad, neu ran o adeilad, o dan sylw wedi ei feddiannu neu ei meddiannu fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, rhaid gwneud asesiad risg tân pellach cyn gynted â phosibl ar ôl i’r adeilad neu’r rhan o’r adeilad gael ei feddiannu neu ei meddiannu eto fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.
(4)Rhaid i’r landlord sicrhau, os caiff ei gyfarwyddo i wneud hynny gan yr awdurdod diogelwch tân ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, fod asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth pellach yn cael ei wneud o fewn cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd.
(5)Rhaid i’r landlord sicrhau bod yr asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth cyfredol yn cael ei adolygu o leiaf unwaith ym mhob 12 mis ar ôl i’r asesiad gael ei wneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 83 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)