RHAN 2DIOGELWCH TÂN MEWN TAI AMLFEDDIANNAETH PENODOL

Asesu a rheoli risgiau diogelwch tân mewn tai amlfeddiannaeth perthnasol

83Amseru ac adolygu asesiadau risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth

(1)

Rhaid gwneud yr asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth cyntaf ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl y diweddaraf o’r hyn a ganlyn—

(a)

y diwrnod y caiff yr adeilad, neu ran o adeilad, o dan sylw ei feddiannu neu ei meddiannu fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(b)

y diwrnod y daw’r adran hon i rym.

(2)

Rhaid gwneud asesiadau risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth pellach cyn gynted â phosibl ar ôl i unrhyw un neu ragor o’r hyn a ganlyn ddigwydd—

(a)

bod gwaith yn cael ei wneud mewn perthynas â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, neu bod newidiadau i feddiannaeth neu ddefnydd unrhyw ran o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, y mae caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth rheolaeth adeiladau yn ofynnol ar eu cyfer;

(b)

bod gwaith yn cael ei wneud‍ am y tro cyntaf mewn perthynas â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol i addasu unrhyw ran ohono i ddiwallu anghenion preswylwyr anabl (ac eithrio gwaith a wneir heb yn wybod i’r landlord y tu mewn i ran o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad aelwyd unigol);

(c)

bod tân yn achosi difrod i unrhyw un neu ragor o rannau perthnasol y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 79(7));

(d)

bod canfyddiadau adolygiad o dan is-adran (5) yn awgrymu nad yw’r asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth cyfredol yn addas nac yn ddigonol mwyach at y diben a grybwyllir yn adran 81(3);

(e)

bod gan y landlord unrhyw reswm arall dros amau nad yw’r asesiad cyfredol yn addas nac yn ddigonol mwyach at y diben hwnnw.

(3)

Ond os bydd unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (2) yn digwydd ar adeg pan nad yw’r adeilad, neu ran o adeilad, o dan sylw wedi ei feddiannu neu ei meddiannu fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, rhaid gwneud asesiad risg tân pellach cyn gynted â phosibl ar ôl i’r adeilad neu’r rhan o’r adeilad gael ei feddiannu neu ei meddiannu eto fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(4)

Rhaid i’r landlord sicrhau, os caiff ei gyfarwyddo i wneud hynny gan yr awdurdod diogelwch tân ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, fod asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth pellach yn cael ei wneud o fewn cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd.

(5)

Rhaid i’r landlord sicrhau bod yr asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth cyfredol yn cael ei adolygu o leiaf unwaith ym mhob 12 mis ar ôl i’r asesiad gael ei wneud.