RHAN 2DIOGELWCH TÂN MEWN TAI AMLFEDDIANNAETH PENODOL
Termau allweddol
80Ystyr “risg diogelwch tân” mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth perthnasol
Yn y Ddeddf hon ystyr “risg diogelwch tân”, mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth perthnasol, yw risg i ddiogelwch pobl yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol neu o’i amgylch sy’n deillio o—
(a)
achos o dân (pa un ai’n ddamweiniol neu’n fwriadol) mewn unrhyw ran o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, neu
(b)
lledaeniad tân o fewn unrhyw ran o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, i unrhyw ran ohono neu o unrhyw ran ohono.