RHAN 2DIOGELWCH TÂN MEWN TAI AMLFEDDIANNAETH PENODOL
Termau allweddol
79Ystyr “landlord” a “deiliaid dyletswydd” ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol
(1)
Mae’r adran hon yn nodi ystyron cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y “landlord” a “deiliaid dyletswydd” mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth perthnasol.
(2)
Landlord tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yw’r person sy’n berson sy’n rheoli’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn rhinwedd bod yn berchennog neu’n lesddeiliad.
(3)
Ond—
(a)
os yw’r lesydd a’r lesddeiliad o dan les y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol ill dau yn bodloni’r diffiniad yn is-adran (2), landlord y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yw’r lesddeiliad (nid y lesydd);
(b)
os nad oes unrhyw berson yn bodloni’r diffiniad hwnnw, y landlord yw’r person â rheolaeth dros y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.
(4)
Mae’r personau a ganlyn yn ddeiliaid dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol—
(a)
y landlord;
(b)
unrhyw berson arall sy’n berson sy’n rheoli’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, p’un ai yn rhinwedd bod yn berchennog neu’n lesddeiliad, neu’n asiant neu’n ymddiriedolwr iddynt.
(5)
Os oes gan unrhyw berson arall rwymedigaeth o dan gontract neu les sy’n ymwneud ag atgyweirio, cynnal a chadw neu ddiogelwch rhannau perthnasol o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, mae’r person hwnnw yn ddeiliad dyletswydd ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol mewn perthynas â materion o fewn cwmpas y rhwymedigaeth.
(6)
Os oes gan unrhyw berson arall unrhyw radd o reolaeth dros rannau perthnasol y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, mae’r person hwnnw yn ddeiliad dyletswydd ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol mewn perthynas â materion o fewn rheolaeth y person.
(7)
Y “rhannau perthnasol” o dŷ amlfeddiannaeth perthnasol yw unrhyw rannau ohono nad ydynt yn cael eu darparu at ddefnydd unigryw, er budd unigryw neu er mwynhad unigryw bersonau sy’n ffurfio aelwyd unigol.