Rhagolygol
(1)Mae’r adran hon yn nodi ystyr cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “tŷ amlfeddiannaeth perthnasol”.
(2)Mae adeilad, neu ran o adeilad, yn dŷ amlfeddiannaeth perthnasol os—
(a)yw’n dŷ amlfeddiannaeth,
(b)yw’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, ac
(c)nad yw’n cael ei eithrio rhag bod yn dŷ amlfeddiannaeth perthnasol gan is-adran (3).
(3)Nid yw tŷ amlfeddiannaeth yn dŷ amlfeddiannaeth perthnasol os—
(a)yw’n cynnwys dwy uned breswyl neu ragor;
(b)yw ond wedi ei feddiannu gan bersonau sydd o fewn yr is-baragraffau a ganlyn—
(i)un neu ragor o bersonau a chanddynt fuddiant perthnasol ynddo;
(ii)unrhyw un neu ragor o aelodau o aelwyd person neu bersonau o’r fath;
(iii)dim mwy na dau berson arall;
(c)yw’r person sy’n ei reoli neu’r person â rheolaeth ohono yn gomisiynydd heddlu a throseddu;
(d)yw o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru (pa un ai drwy gyfeirio at y ffaith y caiff ei feddiannaeth ei rheoleiddio gan ddeddfiad penodedig neu o dan ddeddfiad penodedig, neu unrhyw fater arall).
(4)At ddibenion is-adran (3)(b), mae gan y personau a ganlyn fuddiant perthnasol mewn tŷ amlfeddiannaeth—
(a)perchennog yr ystad rydd-ddaliadol yn y cyfan ohono;
(b)tenant o dan les am y cyfan ohono (pa un a yw’r les yn gontract meddiannaeth ai peidio);
(c)deiliad contract o dan gontract meddiannaeth sy’n drwydded i feddiannu’r cyfan ohono.
(5)Mae cyfeiriadau at dŷ amlfeddiannaeth perthnasol yng ngweddill darpariaethau y Ddeddf hon—
(a)yn cynnwys unrhyw dŷ allan, garej, maes parcio, iard, gardd neu ardal arall a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad meddianwyr y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol (pa un ai y caiff ei ddefnyddio neu ei defnyddio gan bersonau eraill, y caiff personau eraill fudd ohono neu ohoni neu y caiff personau eraill fwynhad ohono neu ohoni ai peidio), a
(b)yn achos tŷ amlfeddiannaeth perthnasol sy’n rhan o adeilad, yn cynnwys—
(i)unrhyw ran o strwythur a thu allan y rhan honno o’r adeilad;
(ii)unrhyw ran o’r adeilad a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad meddianwyr y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol (pa un ai y caiff ei defnyddio gan bersonau eraill, y caiff personau eraill fudd ohoni neu y caiff personau eraill fwynhad ohoni ai peidio).
(6)Ond nid yw cyfeiriadau at dŷ amlfeddiannaeth perthnasol, yn achos tŷ amlfeddiannaeth perthnasol sy’n rhan o adeilad rheoleiddiedig a feddiennir, yn cynnwys unrhyw beth a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad meddianwyr y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol a phreswylwyr unrhyw uned breswyl arall yn yr adeilad.
(7)Yn yr adran hon—
mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) a “deiliad contract” (“contract holder”) yr ystyron a roddir gan adran 7 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gweler hefyd adran 48 o’r Ddeddf honno);
mae “strwythur a thu allan” (“structure and exterior”), mewn perthynas ag adeilad, yn cynnwys—
waliau allanol a mewnol (pa un ai a ydynt yn cynnal pwysau ai peidio);
lloriau a nenfydau;
ffenestri, drysau a balconïau;
mae i “tŷ amlfeddiannaeth” yr ystyr a roddir i “house in multiple occupation” yn adrannau 254 i 259 o Ddeddf Tai 2004 (p. 34), fel y mae’r adrannau hynny’n cael effaith at ddibenion Rhan 1 o’r Ddeddf honno (hynny yw, heb y gwaharddiadau a gynhwysir yn Atodlen 14 i’r Ddeddf honno), ond nid yw’n cynnwys bloc fflatiau a droswyd y mae adran 257 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo.
(8)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r adran hon (ac eithrio is-adran (1) a’r is-adran hon).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 78 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)