RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 10ATODOL
Rheoliadau o dan adrannau 17, 28(2) a 75
77Rheoliadau o dan adrannau 17, 28(2) a 75: gweithdrefn gychwynnol
(1)
Ni chaiff Gweinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 17, 28(2) neu 75 gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 135(4) oni bai—
(a)
eu bod wedi gosod y dogfennau gofynnol gerbron Senedd Cymru, a
(b)
bod cyfnod o 60 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodwyd y dogfennau gofynnol (“y cyfnod o 60 o ddiwrnodau”) wedi dod i ben.
(2)
Y “dogfennau gofynnol” yw—
(a)
drafft arfaethedig o’r rheoliadau, a
(b)
datganiad—
(i)
sy’n rhoi manylion yr ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan adran 17(2) neu 28(7) (fel y bo’n gymwys), a
(ii)
sy’n egluro pam y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y rheoliadau’n angenrheidiol.
(3)
Wrth gyfrifo’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau, rhaid diystyru unrhyw adeg pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu neu’n cymryd toriad am fwy na phedwar diwrnod.
(4)
Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cydymffurfio ag is-adran (1), yn gosod offeryn statudol Cymreig drafft sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 17, 28(2) neu 75 gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 135(4), rhaid iddynt gynnwys gyda’r drafft ddatganiad sy’n rhoi manylion y canlynol—
(a)
unrhyw sylwadau a gafwyd ganddynt yn ystod y cyfnod o 60 o ddiwrnodau, a
(b)
unrhyw wahaniaethau rhwng y drafft arfaethedig o’r rheoliadau a’r rheoliadau yn yr offeryn statudol Cymreig drafft.
(5)
Nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau a wneir yn unig at y diben o ddiwygio darpariaeth a wneir gan reoliadau o dan adran 28(2) sy’n ymwneud â’r materion a nodir yn adran 28(4) neu (5).