RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 10ATODOL
Contractau meddiannaeth
75Pŵer i wneud darpariaeth sy’n ymwneud â thelerau contractau meddiannaeth
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) i—
(a)
cynnwys darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i bob contract meddiannaeth, neu i fathau neu ddisgrifiadau penodol o gontract meddiannaeth, at y diben o alluogi landlord neu ddeiliad contract i gydymffurfio â darpariaeth yn y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani;
(b)
darparu bod darpariaeth o’r Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i bob contract meddiannaeth, neu i fathau neu ddisgrifiadau penodol o gontract meddiannaeth;
(c)
gwneud darpariaeth ynghylch—
(i)
ymgorffori, neu ymgorffori gydag addasiadau, ddarpariaeth sylfaenol a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) fel teler sylfaenol contract meddiannaeth;
(ii)
amrywio teler sylfaenol o’r fath.
(2)
Caiff y rheoliadau hefyd—
(a)
diwygio adran 30IA o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70) (a fewnosodir gan adran 70 o’r Ddeddf hon) i ddarparu nad yw’n gymwys i unrhyw gontract meddiannaeth, neu i fathau neu ddisgrifiadau penodol o gontract meddiannaeth;
(b)
gwneud diwygiadau canlyniadol i unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon).
(3)
Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn yr adran hon a ddefnyddir hefyd yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yr un ystyron yn yr adran hon ag sydd iddynt yn y Ddeddf honno.