RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 2TERMAU ALLWEDDOL

Adeiladau rheoleiddiedig, unedau preswyl a chategorïau adeiladau

7Cynnwys ardaloedd atodol mewn cyfeiriadau at adeiladau rheoleiddiedig

(1)

Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch ystyr cyfeiriadau yng ngweddill darpariaethau’r Ddeddf hon at adeilad rheoleiddiedig (gan gynnwys cyfeiriadau at adeilad categori 1, adeilad categori 2 neu adeilad categori 3).

(2)

Mae cyfeiriad o’r fath yn gyfeiriad at yr adeilad ynghyd ag unrhyw ystafell, tŷ allan, garej, maes parcio, iard, gardd neu ardal arall (“ardal atodol”) a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad preswylwyr yr adeilad.

(3)

At ddibenion is-adran (2) darperir ardal atodol at ddefnydd, er budd neu er mwynhad preswylwyr adeilad—

(a)

pa un ai y caiff ei ddefnyddio gan bersonau eraill,‍ y caiff personau eraill fudd ohono neu y caiff personau eraill fwynhad ohono ai peidio;

(b)

pa un ai y’i darperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad unigryw breswylwyr uned neu unedau preswyl penodol yn yr adeilad ai peidio.