RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 10ATODOL
Adennill costau perthnasol gan brif berson atebol
69Adennill costau perthnasol gan brif berson atebol
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer galluogi’r prif berson atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig i adennill costau perthnasol oddi wrth unrhyw berson arall sy’n berson atebol ar gyfer yr adeilad neu berson sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36, ac mewn cysylltiad â hynny.
(2)
Yn is-adran (1), ystyr “costau perthnasol” yw unrhyw gostau yr aed iddynt neu yr eir iddynt gan y prif berson atebol mewn cysylltiad â’r hyn a ganlyn—
(a)
gwneud cais i gofrestru adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 yn unol ag adran 20 a rheoliadau a wneir oddi tani;
(b)
hysbysu’r awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad o’r fath am newid yn unol ag adran 21 a rheoliadau a wneir oddi tani;
(c)
rhoi declarasiwn i’r awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad o’r fath yn unol ag adran 24 a rheoliadau a wneir oddi tani;
(d)
gwneud cais i ddileu adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 o’r gofrestr yn unol ag adran 25 a rheoliadau a wneir oddi tani;
(e)
sicrhau bod y risgiau diogelwch tân sy’n ymwneud ag adeilad rheoleiddiedig yn cael eu hasesu, ac y rhoddir copïau o asesiadau, yn unol ag adrannau 29 i 32 a rheoliadau a wneir oddi tanynt;
(f)
mewn perthynas ag adeilad categori 1—
(i)
llunio ac adolygu adroddiad achos diogelwch, a rhoi copi o’r adroddiad a hysbysiad yn crynhoi’r diwygiadau i’r awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad, yn unol ag adran 37 a rheoliadau a wneir oddi tani;
(ii)
sefydlu a gweithredu system cofnodi achlysuron yn unol ag adran 38 a rheoliadau a wneir oddi tani;
(iii)
cydymffurfio â’r dyletswyddau a osodir gan adrannau 40 a 41 a rheoliadau a wneir oddi tanynt (strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr);
(iv)
gwneud cais am dystysgrif adeilad yn unol ag adrannau 42 a 43 a rheoliadau a wneir oddi tanynt;
(v)
cydymffurfio â’r dyletswyddau sy’n ymwneud ag arddangos tystysgrifau adeilad a dogfennau eraill a osodir gan adran 45 a rheoliadau a wneir oddi tani;
(vi)
sefydlu a gweithredu system ar gyfer ymchwilio i gwynion perthnasol yn unol ag adran 51 a rheoliadau a wneir oddi tani;
(g)
mewn perthynas ag adeilad categori 2 neu adeilad categori 3, gwneud trefniadau ar gyfer ystyried cwynion perthnasol a rhoi effaith i’r trefniadau hynny yn unol â rheoliadau o dan adran 52;
(h)
gwneud cais am fynediad i fangre, neu gwneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn mynediad, yn unol ag adran 58;
(i)
rhoi hysbysiad rhybuddio yn unol ag adran 59 neu 60 a rheoliadau a wneir o dan adran 62;
(j)
gwneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn torri yn unol ag adran 61.