RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 10ATODOL
Cydweithredu a chydlynu
68Cydweithredu a chydlynu: dyletswyddau personau atebol
(1)
Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo mwy nag un person atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig.
(2)
Wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon a’r rheoliadau a wneir oddi tani, rhaid i bob person atebol, i’r graddau y bo hynny’n bosibl, gydweithredu a chydlynu â phob person atebol arall ar gyfer yr adeilad rheoleiddiedig.
(3)
Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo—
(a)
person yn berson atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig, a
(b)
yr adeilad yn cynnwys tŷ amlfeddiannaeth perthnasol y mae un neu ragor o bersonau eraill yn ddeiliaid dyletswydd ar ei gyfer o dan y Ddeddf hon.
(4)
Wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon a’r rheoliadau a wneir oddi tani, rhaid i’r person atebol, i’r graddau y bo hynny’n bosibl, gydweithredu a chydlynu â phob deiliad dyletswydd ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.
(5)
Mae is-adran (6) yn gymwys pan fo—
(a)
person yn berson atebol ar gyfer adeilad categori 1, a
(b)
gorchymyn mesurau arbennig mewn grym mewn perthynas â’r adeilad.
(6)
Rhaid i’r person atebol gydweithredu â’r rheolwr mesurau arbennig a benodir gan y gorchymyn at ddiben y rheolwr yn cyflawni ei swyddogaethau o dan y gorchymyn.
(7)
Mae is-adran (8) yn gymwys pan fo—
(a)
person yn berson atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig, a
(b)
gorchymyn o dan adran 24 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) mewn grym sy’n penodi rheolwr i gyflawni unrhyw swyddogaethau diogelwch adeiladau mewn perthynas â’r adeilad neu unrhyw ran ohono.
(8)
Rhaid i’r person atebol gydweithredu â’r rheolwr at ddiben y rheolwr yn cyflawni ei swyddogaethau diogelwch adeiladau o dan y gorchymyn.
(9)
Yn is-adrannau (7) ac (8), ystyr “swyddogaeth diogelwch adeiladau” yw swyddogaeth y mae’r Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani yn ei darparu i’w chyflawni gan berson atebol ar gyfer yr adeilad rheoleiddiedig.
(10)
Mae is-adran (11) yn gymwys pan fo—
(a)
person yn berson atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig, a
(b)
un neu ragor o bersonau eraill yn bersonau cyfrifol at ddibenion y Gorchymyn Diogelwch Tân mewn perthynas ag unrhyw fangre sydd—
(i)
yn ffurfio rhan o’r adeilad rheoleiddiedig, neu
(ii)
yn ffurfio rhan o’r un strwythur neu set o strwythurau â’r adeilad rheoleiddiedig (gweler adrannau 2 i 4) ac sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol uwch ben neu o dan yr adeilad rheoleiddiedig.
(11)
Rhaid i’r person atebol, i’r graddau y bo hynny’n bosibl, gydweithredu a chydlynu â phob person cyfrifol at ddiben pob person cyfrifol yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân.
(12)
Yn yr adran hon, mae “person atebol” yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36.