RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 10ATODOL

Mynediad i fangre amhreswyl

67Mynediad i fangre amhreswyl gan berson atebol

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)

bo person atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig a feddiennir yn gwneud cais i berson perthnasol am fynediad i fangre berthnasol,

(b)

bo’r cais yn cael ei wneud at ddiben a grybwyllir yn is-adran (2),

(c)

bo’r cais yn cydymffurfio ag is-adran (3), a

(d)

na roddir mynediad i’r fangre.

(2)

Y dibenion yw—

(a)

pan mai’r person atebol yw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad, galluogi’r person hwnnw i gydymffurfio ag adrannau 29 i 32 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny (asesu risgiau diogelwch tân sy’n ymwneud ag adeiladau rheoleiddiedig);

(b)

galluogi’r person atebol i gydymffurfio ag adran 33 neu reoliadau a wneir oddi tani (rheoli risgiau diogelwch tân sy’n ymwneud ag adeiladau rheoleiddiedig);

(c)

galluogi’r person atebol i gydymffurfio ag adran 34 neu 35 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny (asesu a rheoli risgiau diogelwch strwythurol sy’n ymwneud ag adeiladau categori 1 a chategori 2);

(d)

galluogi person sy’n cael ei drin yn rhinwedd adran 36 fel person atebol i gydymffurfio ag adran 33 neu 35 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny.

(3)

Mae cais yn cydymffurfio â’r is-adran hon os yw—

(a)

yn ysgrifenedig,

(b)

yn nodi’r diben y gwneir y cais ar ei gyfer,

(c)

yn egluro pam ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre berthnasol at y diben hwnnw,

(d)

yn nodi enw’r person sy’n cael ei drin fel person atebol os y’i gwneir at y diben a grybwyllir yn is-adran (2)(d), ac

(e)

yn gofyn am fynediad ar ddyddiad, ac amser, sy’n rhesymol.

(4)

Caiff y person atebol wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn mynediad i fangre amhreswyl o dan yr adran hon.

(5)

Mae gorchymyn mynediad i fangre amhreswyl o dan yr adran hon yn orchymyn sydd—

(a)

yn ei gwneud yn ofynnol i’r person perthnasol ganiatáu (yn ôl y digwydd)—

(i)

i’r person atebol, neu berson a awdurdodir gan y person atebol;

(ii)

i’r person sy’n cael ei drin fel person atebol ac a enwir yn y cais o dan is-adran (3)(d), neu berson a awdurdodir gan y person hwnnw,

fynd i’r fangre berthnasol ar amser rhesymol at y diben a nodir yn y cais o dan is-adran (3)(b), a

(b)

os yw’n angenrheidiol at y diben hwnnw, yn awdurdodi’r person sy’n mynd i’r fangre yn unol â’r gorchymyn i fesur neu brofi unrhyw beth, neu gymryd samplau, ffotograffau neu recordiadau.

(6)

Caiff tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn mynediad i fangre amhreswyl o dan yr adran hon os yw’n fodlon ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny at y diben a nodir yn y cais o dan is-adran (3)(b).

(7)

Rhaid i’r gorchymyn mynediad i fangre amhreswyl bennu dyddiad y caniateir mynd i’r fangre, neu gyfnod y caniateir i’r mynediad ddigwydd ynddo.

(8)

Yn yr adran hon—

ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw unrhyw fangre—

(a)

sy’n ffurfio rhan o—

  1. (i)

    yr adeilad rheoleiddiedig, neu

  2. (ii)

    yr un strwythur neu set o strwythurau â’r adeilad rheoleiddiedig (gweler adrannau 2 i 4) ac sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol uwch ben neu o dan yr adeilad rheoleiddiedig, a

(b)

nad yw—

  1. (i)

    yn uned breswyl neu’n rhan o uned breswyl, neu

  2. (ii)

    yn ardal, neu ran o ardal, a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad preswylwyr uned breswyl benodol, neu unedau preswyl penodol, yn yr adeilad rheoleiddiedig, y strwythur neu’r set;

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw unrhyw berson a chanddo reolaeth dros fynediad i’r fangre berthnasol.