Rhagolygol
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i—
(a)adolygiad o dan adran 64 o benderfyniad adolygadwy;
(b)apêl i dribiwnlys eiddo preswyl o dan adran 65.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)darparu ar gyfer atal dros dro yn ystod y cyfnod adolygu effaith penderfyniad adolygadwy neu unrhyw beth arall a wneir gan awdurdod perthnasol;
(b)gwneud darpariaeth arall ynglŷn ag effaith adolygiad o dan adran 64 yn ystod y cyfnod adolygu (gan gynnwys darpariaeth sy’n rhoi pwerau i awdurdod perthnasol);
(c)darparu ar gyfer atal dros dro yn ystod y cyfnod apelio effaith penderfyniad adolygadwy, canlyniad adolygiad o dan adran 64 neu unrhyw beth arall a wneir gan awdurdod perthnasol;
(d)gwneud darpariaeth arall ynglŷn ag effaith apêl o dan adran 65 yn ystod y cyfnod apelio (gan gynnwys darpariaeth sy’n rhoi pwerau i’r tribiwnlys).
(3)Yn is-adran (2)—
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw’r awdurdod a wnaeth y penderfyniad adolygadwy;
ystyr “cyfnod adolygu” (“review period”) yw unrhyw gyfnod pryd—
y gallai person yr effeithir arno ofyn am adolygiad (gan anwybyddu unrhyw bosibilrwydd o gael estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, neu estyniad pellach pan fo un eisoes wedi ei ganiatáu), neu
y mae person yr effeithir arno wedi gofyn am adolygiad ac nid yw—
wedi cael hysbysiad o dan adran 64(8) neu (10)(b), neu
wedi tynnu’r cais yn ôl;
ystyr “cyfnod apelio” (“appeal period”) yw unrhyw gyfnod pryd—
y gellid gwneud apêl (gan anwybyddu’r posibilrwydd o gael caniatâd i apelio ar ôl yr amser priodol), neu
y mae apêl wedi ei gwneud ond heb ei phenderfynu’n derfynol na’i thynnu’n ôl.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)