RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 9ADOLYGIADAU AC APELAU

65Apêl i dribiwnlys eiddo preswyl

(1)

Caiff person yr effeithir arno sy’n anfodlon â chanlyniad adolygiad o dan adran 64 apelio i dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniad adolygadwy.

(2)

Os mai canlyniad yr adolygiad yw y caiff y penderfyniad ei amrywio, mae’r hawl i apelio o dan is-adran (1) mewn cysylltiad â’r penderfyniad fel y’i hamrywiwyd.

(3)

Rhaid gwneud apêl i’r tribiwnlys cyn diwedd 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir hysbysiad i’r person yr effeithir arno o dan adran 64(8) neu (10)(b).

(4)

Caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(5)

Caniateir gwneud apêl ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—

(a)

bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)

bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)

bod y penderfyniad yn afresymol.

(6)

Wrth benderfynu’r apêl, caiff y tribiwnlys ystyried tystiolaeth nad oedd ar gael i’r awdurdod.

(7)

Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—

(a)

cadarnhau’r penderfyniad,

(b)

amrywio’r penderfyniad, neu

(c)

diddymu’r penderfyniad.