Rhagolygol
(1)Caiff person yr effeithir arno ofyn am adolygiad o benderfyniad adolygadwy drwy roi hysbysiad i’r awdurdod diogelwch adeiladau a wnaeth y penderfyniad yn unol â rheoliadau a wneir o dan is-adran (2).
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)sut y mae rhaid rhoi hysbysiad o gais am adolygiad;
(b)ffurf a chynnwys hysbysiad;
(c)y dyddiad cau ar gyfer rhoi hysbysiad.
(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth—
(a)ynghylch y dogfennau (os oes rhai) y mae rhaid eu cynnwys gyda hysbysiad;
(b)i’r awdurdod diogelwch adeiladau estyn y dyddiad cau ar gyfer rhoi hysbysiad.
(4)Rhaid i awdurdod diogelwch adeiladau adolygu penderfyniad pan ofynnir iddo wneud hynny.
(5)Mae natur a chwmpas yr adolygiad i fod fel ag y maent yn ymddangos yn briodol i’r awdurdod o dan yr amgylchiadau.
(6)Rhaid i’r adolygiad ystyried unrhyw sylwadau a wneir, neu wybodaeth neu ddogfen a roddir, gan y person yr effeithir arno ar gam sy’n rhoi cyfle rhesymol i’r awdurdod eu hystyried (a chaiff ystyried unrhyw wybodaeth neu ddogfen arall).
(7)Ar ôl i’r adolygiad ddod i ben, rhaid i’r awdurdod—
(a)cadarnhau’r penderfyniad,
(b)amrywio’r penderfyniad, neu
(c)canslo’r penderfyniad.
(8)Rhaid i’r awdurdod, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i’r holl bersonau yr effeithir arnynt hysbysiad am ganlyniad yr adolygiad.
(9)Rhaid i’r hysbysiad gynnwys—
(a)y rhesymau dros ganlyniad yr adolygiad, a
(b)gwybodaeth am yr hawl i apelio o dan adran 65.
(10)Os yw’r awdurdod yn methu, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, â rhoi hysbysiad am ganlyniad yr adolygiad o dan is-adran (7) i’r person yr effeithir arno a ofynnodd am yr adolygiad—
(a)trinnir yr adolygiad fel pe bai wedi dod i ben ar ddiwedd y cyfnod perthnasol, a thrinnir yr awdurdod fel pe bai wedi cadarnhau’r penderfyniad, a
(b)rhaid i’r awdurdod, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, roi hysbysiad i’r holl bersonau yr effeithir arnynt o’r ffaith honno.
(11)Rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan is-adran (10)(b) gynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio o dan adran 65.
(12)Yn is-adrannau (8) a (10), ystyr “cyfnod perthnasol” yw—
(a)y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, neu
(b)cyfnod arall o’r fath y cytunir arno yn ysgrifenedig rhwng yr awdurdod a’r person yr effeithir arno a ofynnodd am yr adolygiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)