RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 9ADOLYGIADAU AC APELAU

64Adolygiad o benderfyniad adolygadwy

(1)

Caiff person yr effeithir arno ofyn am adolygiad o benderfyniad adolygadwy drwy roi hysbysiad i’r awdurdod diogelwch adeiladau a wnaeth y penderfyniad yn unol â rheoliadau a wneir o dan is-adran (2).

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)

sut y mae rhaid rhoi hysbysiad o gais am adolygiad;

(b)

ffurf a chynnwys hysbysiad;‍

(c)

y dyddiad cau ar gyfer rhoi hysbysiad.

(3)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth—

(a)

ynghylch y dogfennau (os oes rhai) y mae rhaid eu cynnwys gyda hysbysiad;

(b)

i’r awdurdod diogelwch adeiladau estyn y dyddiad cau ar gyfer rhoi hysbysiad.

(4)

Rhaid i awdurdod diogelwch adeiladau adolygu penderfyniad pan ofynnir iddo wneud hynny.

(5)

Mae natur a chwmpas yr adolygiad i fod fel ag y maent yn ymddangos yn briodol i’r awdurdod o dan yr amgylchiadau.

(6)

Rhaid i’r adolygiad ystyried unrhyw sylwadau a wneir, neu wybodaeth neu ddogfen a roddir, gan y person yr effeithir arno ar gam sy’n rhoi cyfle rhesymol i’r awdurdod eu hystyried (a chaiff ystyried unrhyw wybodaeth neu ddogfen arall).

(7)

Ar ôl i’r adolygiad ddod i ben, rhaid i’r awdurdod—

(a)

cadarnhau’r penderfyniad,

(b)

amrywio’r penderfyniad, neu

(c)

canslo’r penderfyniad.

(8)

Rhaid i’r awdurdod, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i’r‍ holl bersonau yr effeithir arnynt hysbysiad am ganlyniad yr adolygiad.

(9)

Rhaid i’r hysbysiad gynnwys—

(a)

y rhesymau dros ganlyniad yr adolygiad, a

(b)

gwybodaeth am yr hawl i apelio o dan adran 65.

(10)

Os yw’r awdurdod yn meth‍u, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, â rhoi hysbysiad am ganlyniad yr adolygiad o dan is-adran (7) i’r person yr effeithir arno a ofynnodd am yr adolygiad—

(a)

trinnir yr adolygiad fel pe bai wedi dod i ben ar ddiwedd y cyfnod perthnasol, a thrinnir yr awdurdod fel pe bai wedi cadarnhau’r penderfyniad, a

(b)

rhaid i’r awdurdod, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, roi hysbysiad i’r‍ holl bersonau yr effeithir arnynt o’r ffaith honno.

(11)

Rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan is-adran (10)(b) gynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio o dan adran 65.

(12)

Yn is-adrannau (8) a (10), ystyr “cyfnod perthnasol” yw—

(a)

y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, neu

(b)

cyfnod arall o’r fath y cytunir arno yn ysgrifenedig rhwng yr awdurdod a’r person yr effeithir arno a ofynnodd am yr adolygiad.