RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 9ADOLYGIADAU AC APELAU

63Adolygiad ac apêl o benderfyniadau penodol: termau allweddol

(1)

Mae’r adran hon yn nodi ystyr termau allweddol at ddibenion y Bennod hon.

(2)

Ystyr “penderfyniad adolygadwy” yw—

(a)

penderfyniad i beidio â chofrestru adeilad o dan adran 20 oni bai bod y penderfyniad hwnnw wedi ei wneud yn rhinwedd adran 20(2) yn unig (methiant i dalu ffi);

(b)

penderfyniad ynghylch categori adeilad o dan adran 20(6)(c);

(c)

penderfyniad i beidio â diwygio’r cofnod ar gyfer adeilad yn y gofrestr o dan adran 22;

(d)

penderfyniad i ddiwygio’r cofnod ar gyfer adeilad yn y gofrestr o dan adran 23;

(e)

penderfyniad, ac eithrio un a wneir yn unol â chais o dan adran 25(2), i ddileu adeilad o’r gofrestr o dan adran 26;

(f)

penderfyniad i wrthod cais am dystysgrif adeilad o dan adran 44.

(3)

Ystyr “person yr effeithir arno” yw—

(a)

mewn perthynas â phenderfyniad a grybwyllir ym mharagraffau (a), (b) ac (e) o is-adran (2), berson atebol ar gyfer yr adeilad categori 1 neu’r adeilad categori 2 y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef (neu berson a fyddai’n berson atebol ar gyfer yr adeilad pe bai’r adeilad yn adeilad categori 1 neu’n adeilad categori 2);

(b)

mewn perthynas â phenderfyniad a grybwyllir ym mharagraffau (c), (d) ac (f) o is-adran (2), y prif berson atebol ar gyfer yr adeilad categori 1 neu’r adeilad categori 2.

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)

diwygio’r rhestr o benderfyniadau yn is-adran (2) drwy—

(i)

ychwanegu penderfyniad awdurdod diogelwch adeiladau,

(ii)

dileu penderfyniad, neu

(iii)

amrywio’r disgrifiad o benderfyniad;

(b)

diwygio ystyr “person yr effeithir arno”.