RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 8DYLETSWYDDAU PRESWYLWYR A PHERCHNOGION ETC. UNEDAU PRESWYL

60Pŵer person atebol i roi hysbysiad rhybuddio: atgyweirio gwrthiant tân unedau preswyl

(1)

Caniateir rhoi hysbysiad rhybuddio o dan yr adran hon i berson y mae adran 56 yn gymwys iddo mewn perthynas â rhan o uned breswyl mewn adeilad rheoleiddiedig a feddiennir.

(2)

Caniateir rhoi hysbysiad rhybuddio o dan yr adran hon gan—

(a)

y person atebol sy’n gyfrifol am y rhan o’r adeilad sy’n cynnwys yr uned breswyl;

(b)

y prif berson atebol ar gyfer yr adeilad.

(3)

Hysbysiad rhybuddio o dan yr adran hon yw hysbysiad sydd—

(a)

yn pennu’r atgyweiriadau y mae’r person atebol yn ystyried—

(i)

bod y person y cyfeirir ato yn is-adran (1) wedi methu eu gwneud, a

(ii)

y dylai’r person hwnnw eu gwneud o fewn cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad, a

(b)

yn egluro—

(i)

os nad yw’r person yn cydymffurfio â’r hysbysiad y caiff y person atebol wneud cais o dan adran 61 am orchymyn torri, a

(ii)

effaith gorchymyn o’r fath.

(4)

Rhaid i berson atebol sy’n rhoi hysbysiad rhybuddio o dan yr adran hon sicrhau bod unrhyw berson arall sy’n berson atebol ar gyfer yr adeilad yn cael ei hysbysu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.