RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 2TERMAU ALLWEDDOL
Adeiladau rheoleiddiedig, unedau preswyl a chategorïau adeiladau
6Categorïau o adeilad rheoleiddiedig
(1)
Rhennir adeiladau rheoleiddiedig yn 3 chategori at ddibenion y Ddeddf hon.
(2)
Mae adeilad rheoleiddiedig yn adeilad categori 1—
(a)
os yw o leiaf 18 o fetrau o uchder, neu
(b)
bod iddo o leiaf 7 llawr.
(3)
Mae adeilad rheoleiddiedig yn adeilad categori 2—
(a)
os yw’n llai na 18 o fetrau o uchder a bod iddo lai na 7 llawr, a
(b)
os yw o leiaf 11 o fetrau o uchder neu bod iddo o leiaf 5 llawr.
(4)
Mae adeilad rheoleiddiedig yn adeilad categori 3—
(a)
os yw’n llai na 11 o fetrau o uchder, a
(b)
os oes iddo lai na 5 llawr.
(5)
At ddibenion yr adran hon—
(a)
mae llawr mesanîn i’w ystyried fel llawr os yw ei arwynebedd llawr mewnol yn o leiaf hanner arwynebedd llawr mewnol y llawr mwyaf yn yr adeilad nad yw o dan lefel y ddaear;
(b)
mae llawr o dan lefel y ddaear os yw’r cyfan o arwyneb gorffenedig nenfwd y llawr o dan lefel y ddaear;
(c)
ystyr “lefel y ddaear” yw—
(i)
pan fo lefel arwyneb y ddaear y lleolir yr adeilad arno yn unffurf, lefel arwyneb y ddaear yn union gyfagos i’r adeilad;
(ii)
pan nad yw lefel arwyneb y ddaear y lleolir yr adeilad arno yn unffurf, lefel y rhan isaf o arwyneb y ddaear yn union gyfagos i’r adeilad.
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach at ddibenion yr adran hon.
(7)
Caiff y rheoliadau, yn benodol—
(a)
gwneud darpariaeth ynghylch sut y penderfynir ar uchder adeilad neu nifer lloriau adeilad rheoleiddiedig, a chaiff gynnwys ei gwneud yn ofynnol cymryd i ystyriaeth rannau o strwythur neu set o strwythurau y mae’r adeilad yn ffurfio rhan ohono neu ohoni;
(b)
darparu bod adeilad rheoleiddiedig o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau a fyddai fel arall yn dod o fewn categori a nodir yn yr adran hon yn dod o dan gategori gwahanol.