RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 8DYLETSWYDDAU PRESWYLWYR A PHERCHNOGION ETC. UNEDAU PRESWYL

57Mynediad i unedau preswyl at ddiben atgyweirio

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)

bo, yn rhinwedd adran 56, person (“P”) o dan ddyletswydd i sicrhau y caiff difrod i ran o uned breswyl ei atgyweirio,

(b)

bo P yn gwneud cais i berson perthnasol am fynediad i’r uned neu ran o’r uned, gan P neu bersonau a awdurdodir gan P, at y diben o wneud yr atgyweirio,

(c)

bo’r cais yn cydymffurfio ag is-adran (2), a

(d)

na roddir mynediad i’r uned neu i’r rhan o’r uned.

(2)

Mae cais yn cydymffurfio â’r is-adran hon os yw—

(a)

yn ysgrifenedig,

(b)

yn egluro bod P, yn rhinwedd adran 56, o dan ddyletswydd i sicrhau y caiff difrod i ran o’r uned ei atgyweirio,

(c)

yn nodi’r atgyweiriadau sydd i’w gwneud,

(d)

yn gofyn am fynediad ar ddyddiad neu ddyddiadau, ac ar amserau, sy’n rhesymol, ac

(e)

yn cael ei roi i’r person perthnasol—

(i)

o leiaf 48 awr cyn yr amser y gofynnir i gael mynediad, neu

(ii)

os gofynnir am fynediad ar fwy nag un dyddiad, o leiaf 48 awr cyn yr amser cynharaf y gofynnir i gael mynediad.

(3)

Caiff P wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn mynediad ar gyfer atgyweirio.

(4)

Ond ni chaiff P wneud cais am orchymyn mynediad ar gyfer atgyweirio oni bai bod P wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod diogelwch adeiladau a’r awdurdod diogelwch tân ar gyfer yr adeilad yn nodi’r bwriad i wneud cais am orchymyn mynediad ar gyfer atgyweirio mewn cysylltiad â’r person perthnasol a’r uned breswyl (y mae rhaid i’r ddau ohonynt gael eu pennu yn yr hysbysiad).

(5)

Mae gorchymyn mynediad ar gyfer atgyweirio yn orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person perthnasol ganiatáu i P neu bersonau a awdurdodir gan P i—

(a)

mynd i’r uned breswyl neu ran o’r uned breswyl, a

(b)

gwneud yr atgyweiriadau a nodir yn y cais o dan is-adran (2)(c).

(6)

Caiff tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn mynediad ar gyfer atgyweirio os yw’n fodlon ei bod—

(a)

yn angenrheidiol i’r atgyweiriadau a nodir yn y cais o dan is-adran (2)(c) i gael eu‍ gwneud, a

(b)

yn angenrheidiol i fynd i’r uned neu ran o’r uned i wneud yr atgyweiriadau.

(7)

Rhaid i’r gorchymyn mynediad ar gyfer atgyweirio bennu dyddiad y caniateir mynd i’r uned neu ran o’r uned, neu gyfnod y caniateir i’r mynediad ddigwydd ynddo.

(8)

Yn yr adran hon ystyr “person perthnasol” yw—

(a)

mewn perthynas ag uned breswyl—

(i)

preswylydd sy’n oedolyn yn yr uned, neu

(ii)

os nad oes preswylydd o’r fath, unrhyw berson a chanddo reolaeth dros fynediad i’r uned;

(b)

mewn perthynas â rhan o uned breswyl—

(i)

preswylydd sy’n oedolyn yn yr uned a chanddo reolaeth dros fynediad i’r rhan, neu

(ii)

os nad oes preswylydd o’r fath, unrhyw berson a chanddo reolaeth dros fynediad i’r rhan.