RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 8DYLETSWYDDAU PRESWYLWYR A PHERCHNOGION ETC. UNEDAU PRESWYL
56Gwrthiant tân unedau preswyl: dyletswydd i atgyweirio
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i berson sydd—
(a)
yn ymwybodol o ddifrod i ran o uned breswyl mewn adeilad rheoleiddiedig a feddiennir (pa un a yw’r difrod yn draul neu’n ddifrod arall) sy’n dod o fewn is-adran (3), a
(b)
yn dod o fewn is-adran (5) mewn perthynas â’r rhan.
(2)
Rhaid i berson y mae’r adran hon yn gymwys iddo sicrhau y caiff y difrod ei atgyweirio.
(3)
Mae difrod yn dod o fewn yr is-adran hon os yw—
(a)
yn arwain at risg sylweddol o ledaeniad tân, neu
(b)
yn cynyddu’n sylweddol unrhyw risg bresennol o ledaeniad tân.
(4)
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (3) at risg o ledaeniad tân yn golygu risg, os bydd tân yn cychwyn yn yr uned breswyl, y bydd y tân yn lledaenu o’r uned.
(5)
Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon mewn perthynas â rhan o uned breswyl os—
(a)
yw’r person yn ddarostyngedig i ofyniad o dan les neu yn rhinwedd deddfiad (ac eithrio’r adran hon), i atgyweirio neu gynnal a chadw’r rhan, neu
(b)
y person yw perchennog yr uned breswyl, os nad oes unrhyw berson yn dod o fewn paragraff (a) mewn perthynas â’r rhan.
(6)
Nid yw’r adran hon yn effeithio ar ofyniad y mae’r person yn ddarostyngedig iddo i atgyweirio neu gynnal a chadw y rhan.