RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 8DYLETSWYDDAU PRESWYLWYR A PHERCHNOGION ETC. UNEDAU PRESWYL
55Adeiladau categori 1 a chategori 2: dyletswyddau diogelwch strwythurol preswylwyr etc.
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i—
(a)
preswylydd sy’n oedolyn mewn uned breswyl mewn adeilad categori 1 a feddiennir neu adeilad categori 2 a feddiennir;
(b)
perchennog uned breswyl mewn adeilad o’r fath.
(2)
Ni chaiff person y mae’r adran hon yn gymwys iddo—
(a)
yn unrhyw un neu ragor o rannau cyffredin yr adeilad, ar unrhyw un neu ragor o rannau o’r fath neu mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o rannau o’r fath, wneud unrhyw weithred sy’n creu risg sylweddol o risg diogelwch strwythurol yn cael ei gwireddu mewn perthynas â’r adeilad;
(b)
yn yr uned breswyl, ar yr uned breswyl neu mewn perthynas â’r uned breswyl, wneud unrhyw weithred sy’n creu risg sylweddol o risg diogelwch strwythurol yn cael ei gwireddu mewn perthynas â’r adeilad.
(3)
Yn is-adran (2)(a) mae i “rhannau cyffredin” yr ystyr a roddir gan adran 54(3).
(4)
Rhaid i berson y mae’r adran hon yn gymwys iddo gydymffurfio â chais am wybodaeth os yw’r cais—
(a)
yn cael ei wneud gan y person atebol sy’n gyfrifol am y rhan o’r adeilad sy’n cynnwys yr uned breswyl, a
(b)
am wybodaeth sy’n angenrheidiol i alluogi—
(i)
y person atebol i gydymffurfio ag adran 34 neu 35 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny (asesu a rheoli risgiau diogelwch strwythurol);
(ii)
person sy’n cael ei drin yn rhinwedd adran 36 fel person atebol i gydymffurfio ag adran 35 neu reoliadau a wneir oddi tani.