RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 7GWYBODAETH A CHWYNION
Cwynion
53Cwynion i awdurdodau diogelwch adeiladau
(1)
Rhaid i bob awdurdod diogelwch adeiladau sefydlu a gweithredu system ar gyfer ymchwilio i gwynion perthnasol—
(a)
a wneir i’r awdurdod, neu
(b)
y cyfeirir ato yn unol â darpariaeth a wneir o dan adran 51(5)(c) neu 52(3)(e).
(2)
Yn yr adran hon, ystyr “cwyn berthnasol” yw cwyn sy’n ymwneud ag—
(a)
risg diogelwch adeilad sy’n ymwneud ag adeilad rheoleiddiedig,
(b)
cyflawni gan berson atebol ar gyfer adeilad o’r fath unrhyw ddyletswydd o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani, neu
(c)
cyflawni gan reolwr mesurau arbennig ar gyfer adeilad categori 1 unrhyw swyddogaeth a roddir i’r rheolwr gan orchymyn mesurau arbennig.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch sefydlu a gweithredu systemau cwyno o dan yr adran hon.
(4)
Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth—
(a)
ynghylch y personau y caniateir iddynt wneud cwynion perthnasol i awdurdod diogelwch adeiladau, a’r ffordd y caniateir gwneud cwynion perthnasol i awdurdod diogelwch adeiladau;
(b)
ynghylch camau y mae rhaid i berson eu cymryd cyn gwneud cwyn berthnasol;
(c)
ynghylch y cyfnod y mae rhaid ystyried a delio â chŵyn berthnasol ynddo a’r ffordd y mae rhaid ystyried a delio â chŵyn berthnasol (gan gynnwys darpariaeth ynghylch camau gweithredu y mae rhaid i awdurdod diogelwch adeiladau ystyried eu cymryd mewn ymateb i gŵyn);
(d)
i awdurdod diogelwch adeiladau benderfynu ar gwestiynau y cyfeirir ato yn unol â’r ddarpariaeth a wneir o dan adran 51(5)(c) neu 52(3)(e) ynghylch a yw cwynion yn gwynion perthnasol;
(e)
ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth gan awdurdod diogelwch adeiladau mewn perthynas â’i system gwyno neu gwynion a wneir oddi tani.