RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 7GWYBODAETH A CHWYNION

Cwynion

52Adeiladau categori 2 a chategori 3: dyletswydd personau atebol i drefnu ystyriaeth o gwynion

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol i berson atebol ar gyfer adeilad categori 2 a feddiennir neu adeilad categori 3 a feddiennir wneud trefniadau ar gyfer ystyried cwynion perthnasol ac i roi effaith i’r trefniadau hynny.

(2)

Yn yr adran hon, ystyr “cwyn berthnasol” yw cwyn sy’n ymwneud ag—

(a)

risg diogelwch adeilad sy’n ymwneud â’r adeilad, neu

(b)

cyflawni gan berson atebol ar gyfer yr adeilad unrhyw ddyletswydd o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

(3)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol—

(a)

gwneud darpariaeth am y trefniadau y mae rhaid eu gwneud ar gyfer ystyried cwynion perthnasol pan fo mwy nag un person atebol ar gyfer adeilad;

(b)

gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae rhaid gwneud y trefniadau sy’n ofynnol gan y rheoliadau;

(c)

gwneud darpariaeth ynghylch y personau y caniateir iddynt wneud cwynion perthnasol, a’r ffordd y caniateir gwneud cwynion perthnasol;

(d)

gwneud darpariaeth ynghylch y cyfnod y mae rhaid ystyried a delio â chŵyn berthnasol ynddo, a’r ffordd y mae rhaid ystyried a delio â chŵyn berthnasol;

(e)

galluogi person atebol ar gyfer adeilad neu ei wneud yn ofynnol i berson o’r fath gyfeirio cwyn berthnasol, neu unrhyw gwestiwn ynghylch a yw cwyn yn gŵyn berthnasol, at awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad yn unol â’r rheoliadau;

(f)

ei gwneud yn ofynnol i berson atebol gyhoeddi gwybodaeth a bennir yn y rheoliadau mewn perthynas â threfniadau a wneir o dan y rheoliadau.

(4)

Gweler adran 53 am ddarpariaeth ynghylch ymchwilio i gwynion a chwestiynau sy’n cael eu cyfeirio at awdurdod diogelwch adeiladau yn unol â darpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(e).