RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 7GWYBODAETH A CHWYNION
Dyletswyddau i gadw a darparu gwybodaeth a dogfennau
49Dyletswydd person atebol i roi gwybodaeth a dogfennau i bersonau eraill
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch rhannu gwybodaeth berthnasol a dogfennau perthnasol gan bersonau atebol.
(2)
Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i berson atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig roi gwybodaeth berthnasol a bennir yn y rheoliadau, neu ddogfen berthnasol a bennir yn y rheoliadau, i—
(a)
awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad;
(b)
awdurdod diogelwch tân yr adeilad;
(c)
person atebol arall ar gyfer yr adeilad;
(d)
preswylwyr yr adeilad;
(e)
perchnogion unedau preswyl yn yr adeilad;
(f)
unrhyw bersonau eraill a bennir yn y rheoliadau.
(3)
Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
pryd y mae rhaid rhoi gwybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol;
(b)
sut y mae rhaid ei rhoi;
(c)
y ffurf y mae rhaid ei rhoi ynddi.
(4)
Caiff y rheoliadau osod gofynion yn ddarostyngedig i amodau neu eithriadau.
(5)
Caiff y rheoliadau, yn benodol—
(a)
darparu ei bod yn ofynnol i berson atebol roi gwybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol i berson dim ond os yw’r person wedi gofyn amdani;
(b)
gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae cais i’w wneud.
(6)
Pan fo rheoliadau o dan yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol gael ei rhoi i awdurdod diogelwch adeiladau neu awdurdod diogelwch tân, cânt wneud darpariaeth ynghylch derbynioldeb yr wybodaeth neu’r ddogfen mewn unrhyw achos troseddol.
(7)
Yn yr adran hon—
(a)
mae gwybodaeth a dogfennau yn “perthnasol” os ydynt yn ymwneud â rhan o adeilad y mae person atebol yn gyfrifol amdani;
(b)
ac eithrio ym mharagraff (a) o’r is-adran hon, mae cyfeiriadau at berson atebol yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36.