RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 7GWYBODAETH A CHWYNION

Dyletswyddau i gadw a darparu gwybodaeth a dogfennau

48Dyletswydd person atebol i gadw gwybodaeth a dogfennau

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol i berson atebol ar gyfer adeilad rheoleiddiedig gadw—

(a)

gwybodaeth berthnasol a bennir yn y rheoliadau;

(b)

dogfennau perthnasol a bennir yn y rheoliadau.

(2)

Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)

pa gyfnod amser y mae rhaid cadw gwybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol (a all gynnwys ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei chadw am gyfnod amhenodol);

(b)

sut y mae rhaid ei chadw;

(c)

y ffurf y mae rhaid ei chadw ynddi.

(3)

Caiff y rheoliadau osod gofynion yn ddarostyngedig i amodau neu eithriadau.

(4)

Pan fo’n ofynnol i berson atebol gadw gwybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol, ond nad oes ganddo yr wybodaeth neu’r ddogfen berthnasol, rhaid i’r person gael yr wybodaeth neu’r ddogfen oni bai nad yw’n ymarferol gwneud hynny.

(5)

Rhaid i berson atebol y mae’n ofynnol iddo gadw gwybodaeth berthnasol, i’r graddau y bo’n bosibl, sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir ac yn cael ei diweddaru.

(6)

Yn yr adran hon—

(a)

mae gwybodaeth a dogfennau yn “perthnasol” os ydynt yn ymwneud â rhan o adeilad y mae person atebol yn gyfrifol amdani;

(b)

ac eithrio ym mharagraff (a) o’r is-adran hon, mae cyfeiriadau at berson atebol yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36.