RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 7GWYBODAETH A CHWYNION

Dyletswyddau i gadw a darparu gwybodaeth a dogfennau

47Dyletswydd i roi gwybodaeth a dogfennau i bersonau atebol

(1)

Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i berson sy’n berson perthnasol mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig roi gwybodaeth neu ddogfen i berson atebol (“P”) ar gyfer yr adeilad (gweler hefyd erthygl 22D o’r Gorchymyn Diogelwch Tân).

(2)

At ddibenion yr adran hon, mae person yn berson perthnasol mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig os yw’r person—

(a)

yn berson atebol ar gyfer yr adeilad;

(b)

yn ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn yr adeilad;

(c)

yn dal ystad gyfreithiol yn unrhyw ran o’r adeilad;

(d)

yn dal ystad gyfreithiol yn unrhyw ran o fangre sy’n ffurfio rhan o’r un strwythur neu set o strwythurau â’r adeilad ac sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol uwch ben neu o dan yr adeilad.

(3)

Mae is-adran (1) yn gymwys pan—

(a)

bo’r wybodaeth neu’r ddogfen yn angenrheidiol i P gydymffurfio â gofyniad o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani,

(b)

bo P yn rhoi i’r person perthnasol gais ysgrifenedig sy’n—

(i)

nodi y gwneir y cais yn unol â’r adran hon,

(ii)

esbonio pam y mae’r wybodaeth neu’r ddogfen yn ofynnol gan P,

(iii)

datgan y cyfeiriad y mae rhaid rhoi’r wybodaeth neu’r ddogfen iddo, a

(iv)

datgan bod rhaid rhoi’r wybodaeth neu’r ddogfen cyn diwedd dyddiad penodedig heb fod yn llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y rhoddir y cais,

(c)

bo’n rhesymol i’r person perthnasol roi i P yr wybodaeth neu’r ddogfen, a

(d)

yn achos cais am wybodaeth, ni all P wneud cais am yr wybodaeth gan y person perthnasol o dan adran 54(4) neu 55(4) (dyletswyddau preswylwyr a pherchnogion).

(4)

Nid yw datgelu gwybodaeth neu ddogfen yn unol â’r adran hon yn torri—

(a)

unrhyw rwymedigaeth gyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, neu

(b)

unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth neu ddogfen (sut bynnag y caiff ei osod).

(5)

Ond gweler hefyd adran 183A o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12) (diogelu gofynion ar gyfer prosesu data personol).

(6)

Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at berson atebol yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36.