RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 6YMGYSYLLTU Â PHRESWYLWYR ADEILADAU CATEGORI 2 A FEDDIENNIR

46Adeiladau categori 2: strategaethau ymgysylltu â phreswylwyr

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn perthynas ag adeiladau categori 2 sy’n cyfateb neu’n debyg i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan adran 40 neu 41 (strategaethau ymgysylltu â phreswylwyr), neu y gellid ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adrannau hynny, mewn perthynas ag adeiladau categori 1.

(2)

Caiff y rheoliadau wneud diwygiadau canlyniadol i unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon).