RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 5DYLETSWYDDAU SY’N GYMWYS I ADEILADAU CATEGORI 1 A FEDDIENNIR YN UNIG

Tystysgrifau adeilad

45Dyletswydd prif berson atebol i arddangos tystysgrif a gwybodaeth gysylltiedig

(1)

Rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 y mae adran 42 yn gymwys iddo sicrhau bod yr hyn a ganlyn yn cael eu harddangos gyda’i gilydd mewn lle amlwg yn yr adeilad—

(a)

copi o’r dystysgrif adeilad ddiweddaraf sy’n ymwneud â’r adeilad;

(b)

hysbysiad sy’n cydymffurfio ag is-adran (4);

(c)

os oes hysbysiad cydymffurfio perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir gan is-adran (9)), gopi o’r datganiad o dan adran 96(4) sy’n crynhoi’r hysbysiad cydymffurfio.

(2)

Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw gorchymyn mesurau arbennig mewn grym mewn perthynas â’r adeilad.

(3)

Pan fo gorchymyn o’r fath mewn grym, rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad sicrhau—

(a)

nad oes tystysgrif adeilad sy’n ymwneud â’r adeilad, neu gopi o dystysgrif o’r fath, yn cael ei harddangos neu ei arddangos yn yr adeilad;

(b)

bod yr hyn a ganlyn yn cael eu harddangos gyda’i gilydd mewn lle amlwg yn yr adeilad—

(i)

hysbysiad sy’n cydymffurfio ag is-adran (4);

(ii)

os oes hysbysiad cydymffurfio perthnasol a roddwyd i berson atebol nad yw’r gorchymyn yn gymwys iddo, gopi o’r datganiad o dan adran 96(4) sy’n crynhoi’r hysbysiad cydymffurfio.

(4)

Mae hysbysiad yn cydymffurfio â’r is-adran hon os yw—

(a)

ar y ffurf a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a

(b)

yn cynnwys gwybodaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud ag—

(i)

y personau atebol ar gyfer yr adeilad, a

(ii)

os oes gorchymyn mesurau arbennig mewn grym mewn perthynas â’r adeilad, rheolwr mesurau arbennig yr adeilad.

(5)

Mae’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 y mae adran 42 yn gymwys iddo yn cyflawni trosedd os yw’r person yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (3).

(6)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored—

(a)

ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)

ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(7)

Mae person sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o dan is-adran (5) yn cyflawni trosedd bellach os yw’r person yn parhau i fethu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (3) (yn ôl y digwydd) ar ôl yr euogfarn.

(8)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol ar gyfer pob diwrnod y mae’r methiant yn parhau.

(9)

Mae hysbysiad cydymffurfio yn “perthnasol” at ddibenion yr adran hon os yw awdurdod gorfodi—

(a)

wedi rhoi’r hysbysiad i berson atebol ar gyfer yr adeilad categori 1,

(b)

mewn achos pan na roddodd yr hysbysiad i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad, wedi rhoi copi i’r prif berson atebol, ac

(c)

heb hysbysu’r prif berson atebol bod yr hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.