RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 5DYLETSWYDDAU SY’N GYMWYS I ADEILADAU CATEGORI 1 A FEDDIENNIR YN UNIG
Tystysgrifau adeilad
44Penderfynu ar geisiadau a dyroddi tystysgrifau
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 yn gwneud cais am dystysgrif adeilad o dan adran 42(3) neu (4).
(2)
Rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau asesu pa un a chydymffurfir â’r dyletswyddau perthnasol mewn perthynas â’r adeilad (a chaiff yr awdurdod arolygu’r adeilad mewn cysylltiad â’r asesiad hwnnw).
(3)
Os yw’r awdurdod wedi ei fodloni y cydymffurfir â’r holl ddyletswyddau perthnasol, rhaid iddo ddyroddi tystysgrif adeilad mewn perthynas â’r adeilad.
(4)
Os nad yw’r awdurdod wedi ei fodloni y cydymffurfir â’r holl ddyletswyddau perthnasol, rhaid iddo wrthod y cais a rhoi hysbysiad i’r prif berson atebol o’r gwrthodiad; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (5).
(5)
Os yw’r awdurdod yn ystyried y gellir unioni methiant i gydymffurfio â dyletswydd berthnasol yn brydlon—
(a)
caiff roi hysbysiad i’r prif berson atebol sy’n cynnwys disgrifiad byr o’r methiant a phennu cyfnod i’w unioni, a
(b)
os yw’r methiant yn cael ei unioni o fewn y cyfnod hwnnw, caiff yr awdurdod ddyroddi tystysgrif adeilad (yn lle gwrthod y cais).
(6)
Yn yr adran hon ystyr “dyletswydd berthnasol” yw dyletswydd a osodir ar berson atebol ar gyfer yr adeilad gan neu o dan—
(a)
adrannau 29 i 35 (asesu a rheoli risgiau diogelwch adeilad);
(b)
adran 37 (adroddiad achos diogelwch);
(c)
adrannau 38 a 39 (adrodd mewn perthynas â risgiau diogelwch adeilad);
(d)
adran 40 a 41 (strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr);
(e)
adran 49 (darparu gwybodaeth a dogfennau i bersonau eraill).
(7)
Rhaid i hysbysiad o wrthod cais am dystysgrif adeilad gynnwys gwybodaeth am yr hawl i gael adolygiad o dan adran 64.
(8)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach ynghylch tystysgrifau adeilad a hysbysiadau o dan yr adran hon.
(9)
Caiff y ddarpariaeth honno, yn benodol, gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)
ffurf a chynnwys tystysgrif neu hysbysiad;
(b)
sut y mae tystysgrif i’w dyroddi neu y mae hysbysiad i’w roi.