RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 5DYLETSWYDDAU SY’N GYMWYS I ADEILADAU CATEGORI 1 A FEDDIENNIR YN UNIG

Tystysgrifau adeilad

43Ceisiadau am dystysgrifau: gweithdrefn

(1)

Rhaid i brif berson atebol sy’n gwneud cais am dystysgrif adeilad mewn perthynas ag adeilad categori 1 gynnwys gyda’r cais—

(a)

copi o’r adroddiad achos diogelwch cyfredol ar gyfer yr adeilad, oni bai bod copi eisoes wedi ei roi i’r awdurdod diogelwch adeiladau o dan adran 37;

(b)

gwybodaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru ynghylch y system cofnodi achlysuron a weithredir gan y prif berson atebol (gweler adran 38);

(c)

copi o’r strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr gyfredol ar gyfer yr adeilad (gweler adrannau 40 a 41);

(d)

gwybodaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru am yr hyn y mae pob person atebol ar gyfer yr adeilad wedi ei wneud i gydymffurfio â’r dyletswyddau a osodir arnynt o dan adran 49 (darparu gwybodaeth neu ddogfennau i bersonau eraill).

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach ynghylch ceisiadau am dystysgrifau adeilad.

(3)

Caiff y ddarpariaeth honno, yn benodol, gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)

sut y mae rhaid gwneud cais;

(b)

ffurf a chynnwys cais;

(c)

unrhyw beth arall y mae rhaid ei gynnwys gyda chais (yn ychwanegol at yr wybodaeth a’r dogfennau a grybwyllir yn is-adran (1));

(d)

amgylchiadau pryd y caniateir tynnu cais yn ôl neu ei drin fel pe bai’n cael ei dynnu’n ôl;

(e)

sut y caniateir tynnu cais yn ôl.