RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 5DYLETSWYDDAU SY’N GYMWYS I ADEILADAU CATEGORI 1 A FEDDIENNIR YN UNIG
Strategaethau ymgysylltu â phreswylwyr
41Darparu copïau o’r strategaeth gan bersonau atebol
(1)
Cyn gynted â phosibl ar ôl i’r strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr ar gyfer adeilad categori 1 gael ei llunio neu ei diwygio o dan adran 40—
(a)
os oes mwy nag un person atebol ar gyfer yr adeilad, rhaid i’r prif berson atebol roi copi o’r strategaeth i bob person atebol arall;
(b)
rhaid i bob person atebol ar gyfer yr adeilad roi copi o’r strategaeth i—
(i)
pob preswylydd sy’n oedolyn yn y rhan o’r adeilad y mae’r person atebol yn gyfrifol amdani,
(ii)
pob perchennog uned breswyl yn y rhan honno o’r adeilad, a
(iii)
unrhyw berson arall a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(2)
Nid yw is-adran (1)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person atebol roi copi o’r strategaeth i breswylydd—
(a)
os nad yw’r person atebol yn ymwybodol o’r preswylydd, a
(b)
os yw’r person atebol wedi cymryd pob cam rhesymol i adnabod preswylwyr sy’n oedolion yn y rhan o’r adeilad y mae’r person yn gyfrifol amdani.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch sut y mae copi o’r strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr i’w rhoi.