Rhagolygol
(1)Rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 a feddiennir—
(a)llunio strategaeth ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad personau perthnasol mewn penderfyniadau diogelwch adeilad mewn perthynas â’r adeilad, a
(b)gweithredu yn unol â’r strategaeth.
(2)Cyfeirir at strategaeth a luniwyd o dan is-adran (1)(a) yn y Ddeddf hon fel “strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr”.
(3)Yn yr adran hon—
ystyr “penderfyniad diogelwch adeilad” (“building safety decision”) yw penderfyniad gan berson atebol ar gyfer adeilad sydd—
yn ymwneud â rheoli’r adeilad, a
yn cael ei wneud mewn cysylltiad â chyflawni dyletswydd y person atebol o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani;
ystyr “personau perthnasol” (“relevant persons”) yw—
preswylwyr sy’n oedolion yn yr adeilad, a
perchnogion unedau preswyl yn yr adeilad.
(4)Rhaid i’r strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr ar gyfer adeilad gynnwys gwybodaeth am—
(a)yr wybodaeth a fydd yn cael ei rhoi i bersonau perthnasol am benderfyniadau diogelwch adeilad,
(b)yr agweddau ar y penderfyniadau hynny y bydd personau perthnasol yn cael eu ymgynghori amdanynt,
(c)y trefniadau ar gyfer cael ac ystyried barn personau perthnasol,
(d)sut y bydd priodoldeb dulliau ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad yn cael ei fesur a’i gadw o dan adolygiad, ac
(e)unrhyw faterion eraill a bennir mewn rheoliadau.
(5)Rhaid i’r prif berson atebol lunio’r strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr cyn gynted â phosibl ar ôl i’r diweddaraf o’r digwyddiadau a ganlyn ddigwydd—
(a)bod yr adeilad yn cael ei feddiannu;
(b)bod yr adeilad yn dod yn adeilad categori 1;
(c)bod y person yn dod yn brif berson atebol ar gyfer yr adeilad;
(d)bod yr adran hon yn dod i rym.
(6)Wrth lunio’r strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr rhaid i’r prif berson atebol—
(a)ymgynghori â phersonau perthnasol, ac unrhyw bersonau eraill a bennir mewn rheoliadau, ynghylch cynnwys arfaethedig y strategaeth, a
(b)ystyried unrhyw sylwadau a wnaed mewn ymateb i’r ymgynghoriad.
(7)Rhaid i’r prif berson atebol—
(a)adolygu’r strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr ar yr adegau a bennir mewn rheoliadau, a
(b)diwygio’r strategaeth os yw’r person yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol gwneud hynny.
(8)Rhaid i’r prif berson atebol—
(a)o dan yr amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau, ymgynghori â phersonau perthnasol, ac unrhyw bersonau eraill a bennir mewn rheoliadau, ynghylch diwygiadau arfaethedig i’r strategaeth, a
(b)ystyried unrhyw sylwadau a wnaed mewn ymateb i’r ymgynghoriad.
(9)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)llunio, adolygu neu ddiwygio’r strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr ar gyfer adeilad pan fo mwy nag un person atebol ar gyfer yr adeilad;
(b)cynnal ymgynghoriadau o dan yr adran hon neu reoliadau a wneir oddi tani.
(10)Mae Rheoliadau o dan yr adran hon i’w gwneud gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)