RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 2TERMAU ALLWEDDOL

Adeiladau rheoleiddiedig, unedau preswyl a chategorïau adeiladau

4Ystyr “rhan annibynnol”

(1)

Mae rhan o strwythur nad yw ynghlwm neu set o strwythurau yn rhan annibynnol o’r strwythur neu’r set os—

(a)

nad oes iddi fynediad i unrhyw ran arall o’r strwythur neu’r set, a

(b)

yw’n ffurfio rhaniad fertigol o’r strwythur neu’r set (gweler hefyd is-adran (5) yn achos strwythur nad yw ynghlwm).

(2)

Mae rhan o strwythur nad yw ynghlwm neu set o strwythurau yn ffurfio rhaniad fertigol o’r strwythur neu’r set os—

(a)

yw’r strwythur neu’r set wedi ei rannu neu ei rhannu gan y rhan, a

(b)

yw’r rhaniad ar hyd plân fertigol.

(3)

Wrth benderfynu a yw rhan (“rhan A”) o strwythur nad yw ynghlwm neu set o strwythurau yn ffurfio rhaniad fertigol o’r strwythur neu’r set, mae unrhyw ran arall o’r strwythur hwnnw neu’r set honno—

(a)

sy’n rhan nad oes gan ran A fynediad iddi,

(b)

sy’n rhan amhreswyl, ac

(c)

a fyddai fel arall yn atal rhan A rhag ffurfio rhaniad fertigol o’r strwythur neu’r set,

i’w thrin fel pe na bai’n atal rhan A rhag ffurfio rhaniad fertigol o’r strwythur neu’r set.

(4)

Mae rhan o strwythur nad yw ynghlwm neu set o strwythurau yn rhan amhreswyl os‍ yw’n bodloni’r ddau amod a ganlyn—

(a)

nid yw’n cynnwys uned breswyl na rhan o uned breswyl;

(b)

nid yw’n cynnwys ardal, na rhan o ardal, a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad preswylwyr unedau preswyl yn y strwythur neu’r set.

(5)

Yn achos rhan o strwythur nad yw ynghlwm—

(a)

sydd yn bodloni’r maen prawf yn is-adran (1)(a), a

(b)

a fyddai’n bodloni’r maen prawf yn is-adran (1)(b), oni bai na all y rhan rannu’r strwythur am y rheswm bod y rhan yn ffurfio lled cyfan y strwythur,

mae’r rhan yn rhan annibynnol.

(6)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu, mewn amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, fod rhan o strwythur nad yw ynghlwm neu set o strwythurau yn rhan annibynnol, er nad yw’r rhan yn bodloni’r meini prawf ar gyfer bod yn rhan annibynnol (fel y nodir yn yr adran hon).

(7)

Yn yr adran hon, ystyr “mynediad” yw drws, porth bwaog neu agoriad tebyg ond nid yw’n cynnwys drws, porth bwaog nac agoriad tebyg a fwriedir at ddefnydd eithriadol (gan gynnwys defnydd brys) neu ei ddefnyddio at ddibenion cynnal a chadw.