RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 5DYLETSWYDDAU SY’N GYMWYS I ADEILADAU CATEGORI 1 A FEDDIENNIR YN UNIG

Cofnodi ac adrodd mewn perthynas â risgiau diogelwch adeilad

39Adrodd i awdurdodau: dyletswydd person atebol

(1)

Rhaid i berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 a feddiennir, yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, roi gwybodaeth diogelwch adeiladau berthnasol i—

(a)

awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad, a

(b)

awdurdod diogelwch tân yr adeilad.

(2)

Yn yr adran hon, ystyr “gwybodaeth diogelwch adeiladau berthnasol” yw gwybodaeth am risgiau diogelwch adeilad sy’n ymwneud â’r rhan o’r adeilad y mae’r person atebol yn gyfrifol amdani.

(3)

Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) bennu, yn benodol—

(a)

yr wybodaeth diogelwch adeiladau berthnasol y mae rhaid ei rhoi;

(b)

o dan ba amgylchiadau y mae rhaid iddi gael ei rhoi;

(c)

erbyn pryd y mae rhaid ei rhoi.

(4)

Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid rhoi’r wybodaeth.

(5)

Mae person atebol ar gyfer adeilad categori 1 yn cyflawni trosedd os yw’r person yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag is-adran (1).

(6)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

(7)

Nid yw gwybodaeth y mae person yn ei rhoi i awdurdod diogelwch adeiladau neu awdurdod diogelwch tân o dan yr adran hon yn dderbyniadwy mewn tystiolaeth yn erbyn y person mewn achos troseddol ac eithrio—

(a)

mewn achos am drosedd o dan yr adran hon,

(b)

mewn achos am drosedd o dan adran 108 (darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol),

(c)

mewn achos am drosedd o wyrdroi cwrs cyfiawnder, neu

(d)

os yn yr achos—

(i)

wrth roi tystiolaeth, bod y person yn gwneud datganiad sy’n anghyson â’r wybodaeth, a

(ii)

y caiff tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth a roddwyd ei dwyn, neu y gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth honno, gan neu ar ran y person.