Rhagolygol
(1)Rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 a feddiennir sefydlu a gweithredu system cofnodi achlysuron at ddiben galluogi’r personau atebol ar gyfer yr adeilad i gydymffurfio ag adran 39 (adrodd i awdurdod diogelwch adeiladau ac awdurdod diogelwch tân).
(2)Mae “system cofnodi achlysuron” yn system ar gyfer—
(a)cael a chofnodi gwybodaeth am ddigwyddiadau neu sefyllfaoedd sy’n deillio o risgiau diogelwch adeilad sy’n ymwneud â’r adeilad, sy’n arwain at risgiau diogelwch o’r fath neu sy’n gysylltiedig fel arall â hwy, a
(b)rhoi’r wybodaeth honno i bersonau atebol ar gyfer yr adeilad.
(3)Rhaid i’r prif berson atebol sefydlu’r system cofnodi achlysuron a dechrau ei gweithredu cyn gynted â phosibl ar ôl i’r diweddaraf o’r digwyddiadau a ganlyn ddigwydd—
(a)bod yr adeilad yn cael ei feddiannu;
(b)bod yr adeilad yn dod yn adeilad categori 1;
(c)bod y person yn dod yn brif berson atebol ar gyfer yr adeilad;
(d)bod yr adran hon yn dod i rym.
(4)Rhaid i system cofnodi achlysuron ar gyfer adeilad gydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(5)Caiff y gofynion hynny, yn benodol, gynnwys gofynion sy’n ymwneud ag—
(a)y digwyddiadau neu’r sefyllfaoedd y mae gwybodaeth i’w chael amdanynt;
(b)y personau y mae gwybodaeth i’w chael oddi wrthynt (er enghraifft, preswylwyr neu bersonau atebol);
(c)sut y mae gwybodaeth i’w chael a’i chofnodi;
(d)asesu gwybodaeth a geir;
(e)adolygu systemau cofnodi achlysuron.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)