RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 4ASESU A RHEOLI RISGIAU DIOGELWCH ADEILAD
Risgiau diogelwch strwythurol mewn adeiladau categori 1 ac adeiladau categori 2
35Rheoli risgiau diogelwch strwythurol gan bersonau atebol
(1)
Pan fo adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 wedi ei feddiannu, rhaid i bob person atebol ar gyfer yr adeilad gymryd pob cam rhesymol i—
(a)
atal risg diogelwch strwythurol rhag cael ei gwireddu mewn perthynas â’r rhan o’r adeilad y mae’r person yn gyfrifol amdani, a
(b)
lleihau difrifoldeb unrhyw ddigwyddiad sy’n deillio o wireddiad risg o’r fath mewn perthynas â’r rhan honno.
(2)
Caiff y camau gynnwys y person atebol yn gwneud gwaith i’r rhan o’r adeilad y mae’r person yn gyfrifol amdani.
(3)
Rhaid cymryd y camau yn brydlon.
(4)
Rhaid i berson atebol—
(a)
gwneud trefniadau i sicrhau y caiff y camau a gymerir gan y person o dan yr adran hon eu cynllunio, eu trefnu, eu rheoli, eu monitro a’u hadolygu’n effeithiol, a
(b)
rhoi effaith i’r trefniadau hynny.
(5)
Rhaid i berson atebol sicrhau y caiff cofnod ysgrifenedig ei wneud o—
(a)
trefniadau y mae’r person yn eu gwneud o dan yr adran hon, a
(b)
camau y mae’r person yn eu cymryd o dan yr adran hon.
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)
gwneud darpariaeth ynghylch yr hyn sy’n gamau rhesymol at ddibenion yr adran hon;
(b)
pennu materion y mae rhaid i berson atebol roi sylw iddynt, neu egwyddorion y mae rhaid i berson atebol weithredu yn unol â hwy, wrth benderfynu ar y camau i’w cymryd o dan yr adran hon neu wrth gymryd y camau;
(c)
pennu gofynion y mae rhaid i drefniadau o dan yr adran hon gydymffurfio â hwy;
(d)
pennu gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn cofnod ysgrifenedig o’r trefniadau a wnaed, neu gamau a gymerir, o dan yr adran hon.
(7)
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (6), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)
pob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,
(b)
pob awdurdod diogelwch tân, ac
(c)
unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(8)
Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at berson atebol yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel person atebol at ddibenion yr adran hon yn rhinwedd adran 36.