RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 4ASESU A RHEOLI RISGIAU DIOGELWCH ADEILAD

Risgiau diogelwch tân mewn adeiladau rheoleiddiedig

31Amseru ac adolygu asesiadau risg tân

(1)

Rhaid gwneud yr asesiad risg tân cyntaf ar gyfer adeilad rheoleiddiedig heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl y diweddaraf o’r hyn a ganlyn—

(a)

y diwrnod y caiff yr adeilad ei feddiannu;

(b)

y diwrnod y daw’r adran hon i rym.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r adran hon i amrywio’r cyfnod ar gyfer gwneud yr asesiad risg tân cyntaf ar gyfer adeilad rheoleiddiedig.

(3)

Rhaid gwneud asesiadau risg tân pellach cyn gynted â phosibl ar ôl i unrhyw un neu ragor o’r hyn a ganlyn ddigwydd—

(a)

bod gwaith yn cael ei wneud mewn perthynas â’r adeilad, neu bod newidiadau i feddiannaeth neu ddefnydd unrhyw ran o’r adeilad, y mae caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu yn ofynnol ar eu cyfer;

(b)

bod gwaith yn cael ei wneud‍ am y tro cyntaf mewn perthynas â’r adeilad i addasu unrhyw ran ohono i ddiwallu anghenion preswylwyr anabl (ac eithrio gwaith a wneir y tu mewn i uned breswyl heb yn wybod i’r prif berson atebol);

(c)

bod tân yn achosi difrod i unrhyw un neu ragor o rannau cyffredin yr adeilad neu i ddwy uned breswyl neu ragor yn yr adeilad;

(d)

bod canfyddiadau adolygiad o dan is-adran (6) yn awgrymu nad yw’r asesiad risg tân cyfredol ar gyfer yr adeilad yn addas nac yn ddigonol mwyach at y diben a grybwyllir yn adran 29(4);

(e)

bod gan y prif berson atebol ar gyfer yr adeilad unrhyw reswm arall dros amau nad yw’r asesiad cyfredol yn addas nac yn ddigonol mwyach at y diben hwnnw.

(4)

Ond os bydd unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (3) yn digwydd ar adeg pan nad yw’r adeilad wedi ei feddiannu, rhaid gwneud asesiad risg tân pellach cyn gynted â phosibl ar ôl i’r adeilad gael ei feddiannu eto.

(5)

Rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad sicrhau, os caiff ei gyfarwyddo i wneud hynny gan awdurdod diogelwch tân yr adeilad, fod asesiad risg tân pellach yn cael ei wneud o fewn cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd.

(6)

Rhaid i’r prif berson atebol sicrhau bod yr asesiad risg tân cyfredol ar gyfer yr adeilad yn cael ei adolygu, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas ac yn ddigonol, o leiaf unwaith ym mhob 12 mis ar ôl i’r asesiad gael ei wneud.