Rhagolygol
(1)Rhaid i asesiad risg tân ar gyfer adeilad rheoleiddiedig gael ei wneud gan berson cymwys.
(2)Ystyr “person cymwys” yw unigolyn neu gorff sy’n meddu ar arbenigedd neu brofiad digonol i asesu’r risgiau diogelwch tân mewn perthynas â’r rhannau perthnasol o’r adeilad (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 29(2)).
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu gofynion y mae rhaid i unigolyn neu gorff eu bodloni er mwyn ystyried eu bod yn meddu ar arbenigedd neu brofiad digonol at y diben hwnnw (gan gynnwys gofynion ar gyfer cymwysterau penodol neu ar gyfer achrediad gan sefydliad penodol, neu aelodaeth o sefydliad o’r fath).
(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)pob awdurdod diogelwch tân, a
(b)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(5)Os gwneir asesiad risg tân ar gyfer adeilad rheoleiddiedig gan berson nad yw’n berson cymwys—
(a)mae’r person sy’n gwneud yr asesiad yn cyflawni trosedd, a
(b)mae’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad yn cyflawni trosedd os oedd y prif berson atebol yn gwybod, neu y dylai’n rhesymol fod wedi gwybod, nad oedd y person sy’n gwneud yr asesiad yn berson cymwys.
(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored—
(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;
(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.
(7)Mae person yn cyflawni trosedd—
(a)os yw’r person yn cynnig gwneud asesiad risg tân ar gyfer adeilad rheoleiddiedig, a
(b)os nad yw’r person yn berson cymwys.
(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)