RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 2TERMAU ALLWEDDOL

Adeiladau rheoleiddiedig, unedau preswyl a chategorïau adeiladau

3Ystyr “adeilad”

(1)

Mae’r adran hon yn nodi ystyr “adeilad” at ddibenion adran 2.

(2)

Yn achos strwythur nad yw ynghlwm wrth strwythur arall (“strwythur nad yw ynghlwm”), mae’r strwythur hwnnw’n adeilad.

(3)

Yn achos strwythurau sydd ynghlwm wrth ei gilydd, mae’r strwythurau hynny ac unrhyw adeiladweithiau sy’n cysylltu’r strwythurau hynny (gyda’i gilydd yn “set o strwythurau”) yn adeilad.

(4)

Ond mae is-adrannau (2) a (3) yn ddarostyngedig i is-adran (5).

(5)

Os yw strwythur nad yw ynghlwm neu set o strwythurau yn cynnwys unrhyw rannau annibynnol, mae pob rhan annibynnol yn adeilad (gweler adran 4).

(6)

Yn yr adran hon ystyr “strwythur” yw adeiladwaith sydd iddo do a waliau (pa un a yw’r adeiladwaith yn cynnwys rhannau nad oes iddynt do neu waliau ai peidio).