RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 4ASESU A RHEOLI RISGIAU DIOGELWCH ADEILAD
Risgiau diogelwch tân mewn adeiladau rheoleiddiedig
29Asesiad o risgiau diogelwch tân: dyletswyddau prif berson atebol
(1)
Pan fo adeilad rheoleiddiedig wedi ei feddiannu, rhaid i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad sicrhau bod y risgiau diogelwch tân sy’n ymwneud â rhannau perthnasol yr adeilad yn cael eu hasesu yn unol â’r adran hon ac adrannau 30 i 32 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny.
(2)
“Rhannau perthnasol” yr adeilad yw pob rhan o’r adeilad y mae unrhyw berson atebol yn gyfrifol amdani (gweler adran 16).
(3)
Cyfeirir at asesiad o dan is-adran (1) yn y Ddeddf hon fel “asesiad risg tân”.
(4)
Rhaid i asesiad risg tân fod yn addas ac yn ddigonol i alluogi pob person atebol ar gyfer yr adeilad (ac unrhyw berson arall sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36) i gydymffurfio ag adran 33 (rheoli risgiau diogelwch tân).