RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 4ASESU A RHEOLI RISGIAU DIOGELWCH ADEILAD

Termau allweddol

28Ystyr “risg diogelwch adeilad”

(1)

Yn y‍ Rhan hon ystyr “risg diogelwch adeilad” yw—

(a)

mewn perthynas ag adeilad categori 1 neu adeilad categori 2, risg diogelwch tân neu risg diogelwch strwythurol;

(b)

mewn perthynas ag adeilad categori 3, risg diogelwch tân.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu’r diffiniad o “risg diogelwch adeilad” i gynnwys risg a bennir yn y rheoliadau.

(3)

Y risgiau y caiff eu pennu yn y rheoliadau yw—

(a)

mewn perthynas ag adeilad categori 1 neu adeilad categori 2, unrhyw risg i ddiogelwch pobl yn yr adeilad neu o’i amgylch sy’n deillio o unrhyw fater (ac eithrio tân a methiant strwythurol) sy’n effeithio ar unrhyw ran o’r adeilad;

(b)

mewn perthynas ag adeilad categori 3—

(i)

risg diogelwch strwythurol;

(ii)

unrhyw risg i ddiogelwch pobl yn yr adeilad neu o’i amgylch sy’n deillio o unrhyw fater (ac eithrio tân a methiant strwythurol) sy’n effeithio ar unrhyw ran o’r adeilad.

(4)

Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)

asesu’r risgiau a bennir yn y rheoliadau pan fo adeilad y mae’r rheoliadau yn gymwys iddo wedi ei feddiannu, a

(b)

cymryd camau i atal y risgiau hynny rhag cael eu gwireddu a lleihau difrifoldeb y digwyddiadau sy’n deillio o wireddiad y risgiau hynny.

(5)

Caiff y rheoliadau—

(a)

darparu bod unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani sy’n gymwys mewn perthynas â risg diogelwch tân neu risg diogelwch strwythurol i fod yn gymwys (gydag addasiadau neu hebddynt) mewn perthynas â risg a bennir yn y rheoliadau, neu

(b)

gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i unrhyw ddarpariaeth o’r fath (gydag addasiadau neu hebddynt) mewn perthynas â risg a bennir yn y rheoliadau.

(6)

Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud gan y rheoliadau yn cynnwys—

(a)

darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau ar unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32));

(b)

darpariaeth sy’n diwygio’r Ddeddf hon.

(7)

Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)

pob‍ cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,

(b)

pob awdurdod diogelwch tân, ac

(c)

unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.