RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 4ASESU A RHEOLI RISGIAU DIOGELWCH ADEILAD
Termau allweddol
27Ystyr “risg diogelwch tân” a “risg diogelwch strwythurol”
(1)
Mae’r adran hon yn nodi ystyr “risg diogelwch tân” a “risg diogelwch strwythurol” mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig.
(2)
Ystyr “risg diogelwch tân” yw risg i ddiogelwch pobl yn yr adeilad neu o’i amgylch sy’n deillio o—
(a)
achos o dân (pa un ai’n ddamweiniol neu’n fwriadol) mewn unrhyw ran o’r adeilad, neu
(b)
lledaeniad tân o fewn unrhyw ran o’r adeilad, i unrhyw ran ohono neu o unrhyw ran ohono.
(3)
Ystyr “risg diogelwch strwythurol” yw risg i ddiogelwch pobl yn yr adeilad neu o’i amgylch sy’n deillio o fethiant strwythurol sy’n effeithio ar unrhyw ran o’r adeilad.