Rhagolygol
(1)Caiff awdurdod diogelwch adeiladau ddileu adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 o’i gofrestr os yw’n fodlon (pa un ai yn unol â chais o dan adran 25(2) neu fel arall)—
(a)nad yw’r adeilad yn adeilad categori 1 nac yn adeilad categori 2, neu
(b)nad yw’r adeilad wedi ei feddiannu a bydd cyfanswm y cyfnod nad yw’r adeilad wedi ei feddiannu yn 6 mis o leiaf.
(2)Cyn dileu adeilad o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau roi hysbysiad i’r personau a ganlyn ei fod yn bwriadu gwneud hynny—
(a)y prif berson atebol ar gyfer yr adeilad (oni bai bod yr awdurdod yn bwriadu dileu’r adeilad o’r gofrestr yn unol â chais gan y prif berson atebol o dan adran 25(2)), a
(b)pob person atebol arall ar gyfer yr adeilad (pan fo mwy nag un person atebol ar gyfer yr adeilad).
(3)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2) bennu—
(a)y rhesymau dros fwriadu dileu’r adeilad o’r gofrestr,
(b)y cyfnod pryd y caiff pob person y rhoddir yr hysbysiad iddo gyflwyno sylwadau ynghylch yr hyn y mae’r awdurdod yn bwriadu ei wneud (“y cyfnod penodedig”), ac
(c)y ffordd y caniateir i’r sylwadau hynny gael eu cyflwyno.
(4)Rhaid i’r cyfnod penodedig fod o leiaf 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
(5)Rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau roi sylw i unrhyw sylwadau a wneir yn unol â’r hysbysiad a roddir o dan is-adran (2) wrth benderfynu a ddylid dileu’r adeilad o’r gofrestr.
(6)Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad o’i benderfyniad i bob person atebol ar gyfer yr adeilad.
(7)Os yw’r awdurdod yn penderfynu dileu’r adeilad o’r gofrestr yn unol â chais gan y prif berson atebol o dan adran 25(2), rhaid i’r hysbysiad o’i benderfyniad gynnwys y dyddiad y mae’r dilead yn cymryd effaith.
(8)Rhaid i unrhyw hysbysiad arall o benderfyniad i ddileu adeilad o’r gofrestr gynnwys—
(a)y dyddiad y mae’r dilead yn cymryd effaith,
(b)y rhesymau dros ddileu’r adeilad o’r gofrestr, ac
(c)gwybodaeth am yr hawl i gael adolygiad o dan adran 64.
(9)Ni all dileu adeilad o gofrestr o dan yr adran hon gymryd effaith ar unrhyw adeg pan—
(a)gellid gofyn am adolygiad o’r penderfyniad i ddileu’r adeilad o’r gofrestr o dan adran 64 (oni bai bod pob person atebol ar gyfer yr adeilad wedi hysbysu’r awdurdod diogelwch adeiladau nad yw’r person yn bwriadu gofyn am adolygiad),
(b)gofynnwyd am adolygiad ond nid yw wedi ei gwblhau ac nad yw’r cais wedi ei dynnu’n ôl,
(c)gellid apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys eiddo preswyl o dan adran 65 (oni bai bod pob person atebol ar gyfer yr adeilad wedi hysbysu’r awdurdod nad yw’r person yn bwriadu apelio), neu
(d)bo apêl wedi ei gwneud ond heb ei phenderfynu’n derfynol na’i thynnu’n ôl.
(10)Os yw is-adran (9) yn peidio ag atal dilead rhag cymryd effaith ar adeg pan fo’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan is-adran (8)(a) eisoes wedi mynd heibio, rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau benderfynu ar ddyddiad yn y dyfodol y bydd y dilead yn cymryd effaith arno (oni bai bod dyddiad o’r fath wedi ei benderfynu ar adolygiad neu apêl).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)