RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 3COFRESTRU ADEILADAU CATEGORI 1 AC ADEILADAU CATEGORI 2

Dileu adeilad o gofrestr

25Cais i ddileu adeilad o gofrestr

(1)

Mae is-adran (2) yn gymwys os yw’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 cofrestredig neu adeilad categori 2 cofrestredig yn credu, neu y dylai’n rhesymol gredu—

(a)

nad yw’r adeilad yn adeilad categori 1 nac yn adeilad categori 2, neu

(b)

nad yw’r adeilad wedi ei feddiannu a bydd cyfanswm y cyfnod nad yw’r adeilad wedi ei feddiannu yn 6 mis o leiaf.

(2)

Rhaid i’r prif berson atebol wneud cais i’r awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad i ddileu’r adeilad o’r gofrestr cyn diwedd 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf y mae gan y person, neu y dylai’n rhesymol fod gan y person, y gred honno.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch ceisiadau o dan is-adran (2) gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth ynghylch—

(a)

sut y mae rhaid gwneud cais;

(b)

ffurf a chynnwys cais;

(c)

unrhyw beth arall y mae rhaid ei gynnwys gyda chais.

(4)

Mae person sy’n methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag is-adran (2) yn euog o drosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(5)

Mae person sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o dan is-adran (4) yn cyflawni trosedd bellach os yw’r person yn parhau i fethu â chydymffurfio ag is-adran (2) ar ôl yr euogfarn.

(6)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol ar gyfer pob diwrnod y mae’r methiant yn parhau.