RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 3COFRESTRU ADEILADAU CATEGORI 1 AC ADEILADAU CATEGORI 2

Hysbysu am newidiadau a diwygiadau i gofrestr

23Diwygio cofrestr heb hysbysiad

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod diogelwch adeiladau yn dod yn ymwybodol, ac eithrio drwy gael hysbysiad o dan adran 21(1), fod gwybodaeth neu ddogfen sydd wedi eu cynnwys mewn cofnod ar gyfer adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 yn ei gofrestr yn anghywir.

(2)

Rhaid i’r awdurdod benderfynu a ddylid diwygio’r cofnod ar gyfer yr adeilad yn y gofrestr.

(3)

Os yw’r awdurdod yn penderfynu diwygio’r cofnod, rhaid iddo roi hysbysiad i’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad o’i benderfyniad cyn diwedd 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y daw’n ymwybodol o’r anghywirdeb.

(4)

Rhaid i’r hysbysiad—

(a)

nodi’r diwygiad a wnaed,

(b)

cynnwys y dyddiad y mae’r diwygiad yn cymryd effaith, ac

(c)

cynnwys gwybodaeth am yr hawl i gael adolygiad o dan adran 64.

(5)

Ni all y penderfyniad i ddiwygio’r cofnod ar gyfer yr adeilad yn y gofrestr gymryd effaith ar unrhyw adeg pan—

(a)

gellid gofyn am adolygiad o’r penderfyniad o dan adran 64 (oni bai bod y prif berson atebol wedi hysbysu’r awdurdod nad yw’r person yn bwriadu gofyn am adolygiad),

(b)

gofynnwyd am adolygiad ond nid yw wedi ei gwblhau ac nad yw’r cais wedi ei dynnu’n ôl,

(c)

gellid apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys eiddo preswyl o dan adran 65 (oni bai bod y prif berson atebol wedi hysbysu’r awdurdod nad yw’r person yn bwriadu apelio), neu

(d)

‍bo apêl wedi ei gwneud ond heb ei phenderfynu’n derfynol na’i thynnu’n ôl.

(6)

Os yw is-adran (5) yn peidio ag atal penderfyniad i ddiwygio’r cofnod yn y gofrestr rhag cymryd effaith ar adeg pan fo’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan is-adran (4)(b) eisoes wedi mynd heibio, rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau benderfynu ar ddyddiad yn y dyfodol y bydd y diwygiad yn cymryd effaith arno (oni bai bod dyddiad o’r fath wedi ei benderfynu ar adolygiad neu apêl).