RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 3COFRESTRU ADEILADAU CATEGORI 1 AC ADEILADAU CATEGORI 2

Hysbysu am newidiadau a diwygiadau i gofrestr

22Diwygio cofrestr yn dilyn hysbysiad am newid

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 cofrestredig neu adeilad categori 2 cofrestredig yn hysbysu awdurdod diogelwch adeiladau yr adeilad am newid o dan adran 21(1).

(2)

Rhaid i’r awdurdod benderfynu a ddylid diwygio’r cofnod ar gyfer yr adeilad yn ei gofrestr.

(3)

Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad i’r prif berson atebol o’i benderfyniad cyn diwedd 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod yr hysbysir yr awdurdod am y newid o dan adran 21(1).

(4)

Os yw’r awdurdod yn penderfynu diwygio’r cofnod ar gyfer yr adeilad yn y gofrestr, rhaid i’r hysbysiad nodi’r diwygiad a wnaed.

(5)

Os yw’r awdurdod yn penderfynu peidio â diwygio’r cofnod ar gyfer yr adeilad yn y gofrestr, rhaid i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth am yr hawl i gael adolygiad o dan adran 64.