RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 3COFRESTRU ADEILADAU CATEGORI 1 AC ADEILADAU CATEGORI 2

Gofyniad i gofrestru a’r weithdrefn gofrestru

20Gweithdrefn gofrestru

(1)

Rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 gofrestru’r adeilad os yw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad wedi—

(a)

gwneud cais i gofrestru’r adeilad sy’n cydymffurfio â rheoliadau a wneir o dan is-adran (3), a

(b)

talu’r ffi (os oes un) sy’n ofynnol gan reoliadau a wneir o dan adran 125.

(2)

Ni chaiff yr awdurdod diogelwch adeiladau gofrestru’r adeilad os nad yw’r prif berson atebol wedi talu’r ffi (os oes un) sy’n ofynnol gan reoliadau a wneir o dan adran 125.

(3)

Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)

sut y mae rhaid gwneud cais i gofrestru’r adeilad;

(b)

ffurf a chynnwys cais‍.

(4)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) wneud darpariaeth ynghylch y dogfennau (os oes rhai) y mae rhaid eu cynnwys gyda chais.

(5)

Os yw’r awdurdod diogelwch adeiladau yn cofrestru’r adeilad, rhaid iddo roi hysbysiad i’r prif berson atebol sy’n cadarnhau bod yr adeilad wedi ei gofrestru.

(6)

Rhaid i’r hysbysiad gynnwys—

(a)

dyddiad y cofrestriad,

(b)

y rhif cofrestru a roddir i’r adeilad,

(c)

categori yr adeilad (gweler adran 6) a gwybodaeth am yr hawl i gael adolygiad o dan adran 64, a

(d)

gwybodaeth am sut y caiff y prif berson atebol gopi o’r cofnod yn y gofrestr ar gyfer yr adeilad.

(7)

Os nad yw’r awdurdod diogelwch adeiladau yn cofrestru’r adeilad, rhaid iddo roi hysbysiad i’r prif berson atebol sy’n cadarnhau nad yw’r adeilad wedi ei gofrestru.

(8)

Rhaid i’r hysbysiad gynnwys—

(a)

y rhesymau pam nad yw’r adeilad wedi ei gofrestru, a

(b)

gwybodaeth am yr hawl i gael adolygiad o dan adran 64.

(9)

Rhaid i’r awdurdod diogelwch adeiladau roi hysbysiad o dan is-adran (5) neu (7) cyn diwedd 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y daw’r cais i gofrestru i law’r awdurdod.