RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 2TERMAU ALLWEDDOL

Adeiladau rheoleiddiedig, unedau preswyl a chategorïau adeiladau

2Ystyr “adeilad rheoleiddiedig”

(1)

Yn y Ddeddf hon ystyr “adeilad rheoleiddiedig” yw adeilad sydd—

(a)

yn cynnwys o leiaf 2 uned breswyl, a

(b)

yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

(2)

Ond nid yw ystyr “adeilad rheoleiddiedig” yn cynnwys adeilad o ddisgrifiad a nodir yn Atodlen 1.

(3)

Yn y Bennod hon—

(a)

mae adrannau 3 a 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch ystyr “adeilad” at ddibenion yr adran hon;

(b)

mae adran 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch ystyr “uned breswyl”;

(c)

mae adran 6 yn rhannu adeiladau rheoleiddiedig yn 3 chategori;

(d)

mae adran 7 yn darparu ar gyfer cynnwys ardaloedd atodol mewn cyfeiriadau at adeilad rheoleiddiedig neu at adeilad rheoleiddiedig o gategori penodol.