RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 3COFRESTRU ADEILADAU CATEGORI 1 AC ADEILADAU CATEGORI 2

Gofyniad i gofrestru a’r weithdrefn gofrestru

19Gofyniad i gofrestru adeiladau categori 1 ac adeiladau categori 2

(1)

Mae’r prif berson atebol ar gyfer adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 yn cyflawni trosedd os yw’r adeilad wedi ei feddiannu ond heb ei gofrestru.

(2)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored—

(a)

ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)

ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(3)

Mae person sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o dan is-adran (1) yn cyflawni trosedd bellach os yw’r adeilad yn parhau i gael ei feddiannu ond heb ei gofrestru ar ôl yr euogfarn.

(4)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol ar gyfer pob diwrnod y mae’r adeilad yn parhau i gael ei feddiannu ond heb ei gofrestru.

(5)

Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan yr adran hon brofi bod gan y person esgus rhesymol‍ dros y ffaith bod yr adeilad wedi ei feddiannu ond heb ei gofrestru.