RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL

PENNOD 3COFRESTRU ADEILADAU CATEGORI 1 AC ADEILADAU CATEGORI 2

Cofrestrau

18Cofrestrau o adeiladau categori 1 ac adeiladau categori 2

(1)

Rhaid i awdurdod diogelwch adeiladau gadw cofrestr o adeiladau categori 1 ac adeiladau categori 2 y mae’n awdurdod diogelwch adeiladau ar eu cyfer.

(2)

Rhaid i gofnod ar gyfer adeilad categori 1 neu adeilad categori 2 mewn cofrestr gynnwys—

(a)

cyfeiriad yr adeilad;

(b)

categori yr adeilad o dan adran 6;

(c)

uchder yr adeilad at ddibenion yr adran honno;

(d)

nifer y lloriau yn yr adeilad at ddibenion yr adran honno;

(e)

enw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad (gweler adran 9);

(f)

cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig lle caiff‍ awdurdod gorfodi roi hysbysiadau a dogfennau eraill i’r prif berson atebol o dan y Ddeddf hon a rheoliadau a wneir oddi tani;

(g)

rhif ffôn (os oes un) a chyfeiriad e-bost (os oes un) y prif berson atebol;

(h)

unrhyw wybodaeth arall, ac unrhyw ddogfennau, a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi gan awdurdod diogelwch adeiladau ei gofrestr neu wybodaeth neu ddogfennau sydd wedi eu cynnwys yn ei gofrestr.